Th, 87v–88r   
    Moliant Ivor hael
 
1    [ ]a rred i wared oror yr olwyn
2    nevr wylan ir dyfyn vor
3    dev well y red bvddged bor
4    diwyd wy dy wawd Ivor
 
5    Osta plethiad mad y mor ai hirwlych
6    wrth herw long raff angor
7    Gwell y pletha ddewraf ddor
8    Gwawd y tavod yt Ivor
 
13    kyvyd yt hawdd vyd vadain bor genyd
14    Ag annwyl hawddamor
15    kad ddychryn darff ddewra ddor
16    kedyrn ofn kadarn Ivor
 
9    Nithyf kaen lle maen llanw mor rryverthwy
10    rrwyf Arthvr nev ector
11    mygyr ateb ddiareb ddor
12    mal y ty mawl yt Ivor
 
17    Ner byd bydwrid bedwar gwndawd
18    anef o lygawd nev olygor
19    nerthiad fo efo ar fowrdwy fowrlen
20    nen y ffyrfvafen i ffyryf ivor
23    Naddiad arf aergad eirf ar gor englawdd
24    nawdd mvr a rwyfawdd mair ar Ivor
25    nawd braisk erkwfl waisc wisci borffor siamp
26    anvdd orevgamp naddai ragor
27    Nev berth achyngerth angor deifrblas
28    ni bas Rygafas rrowioc Ifor
21    newidiwr trwsiwr trysor moliant
22    normant klvd goddiant klod egwyddor
29    Ni byddai lle bai bell heb gorav
30    ni bydda hebddaw beredlaw bor
31    ni bydd anrregydd vn rragor nag vwch
32    ni bv ogyfiwch neb ag Ifor
33    Hardd silldydd y sydd rrydd rrwydd ddiddor gyngor meddlyn
34    helm lywelyn wawl mynychddor
35    heddiw nididiw didwyll Ior gwyndal
36    hval hael ddyfal hylwydd Ifor
37    [88r] Hawdd ddydd ef ai rrydd rrwydd ddiddor ddangos
38    hawdd nos hedd agos hovw eddigor
39    hawdd wr ym ymwrdd hawdd amor bevnvdd
40    hawdd fyd bryd brawd ffydd vfvdd Ivor
41    Hawl mawl amwychdawl Ector yn hervysg
42    hardd ffyst deirf filddysc ar dew vronddor
43    heliais achevais achyvor ddvrfring
44    hawl da di gyfing haeldeg Ivor
45    Heirdd ddigeirdd I veirdd vowrddor ariangrwydr
46    hovw vranarfrwdyr hafren oror
47    hir oesawg fv Noe hovw rasawr vakwy
48    hwy hvawdl ofwy vo hoedl Ivor
 
    dauidd ap gwilym ai kant