Odl voliant y Ifor hael
1 Da y Red y waered ar oror / olwyn
2 ne wylan ar hydvor
3 dauwell y Red byddged bor
4 diwyd wyf dy wawd jfor
5 [345v] os da plethiad mad y mor ai hirwlych
6 am herwlong Raff angor
7 gwell y plethaf ddewraf ddor
8 gwawd y tavawd yt jfor
9 ny thyf kaen llenn maen llanw mor Ryferthwy
10 Rwyf Arthur ne Ector
11 mygr atteb ddiaereb ddor
12 mal y tyf mawl yt jfor
13 kyfyd yt hawddfyd vadien bor gennyf
14 ag Annwyl hawdd Amor
15 kad ddrychyndarf ddewrarf ddor
16 kedyrn ofn kadarn jfor
17 naf y byd deiryd bedeiror giwdawd
18 a naf olaugawd nef olygor
19 nerthiad vo evo ar vor a llawrllenn
20 nenn y ffyrfafen y ffyrf jfor
21 newidiwr trysswr tressor er moliant
22 normant glyd goddiant glod arglwyddior
23 naddiad arf oergad eirif argor einglgawdd
24 nawdd mair a Rwyfawdd mawr y jfor
25 nerth braisc Erkwlff waisc wisc borffor lathrsiamp
26 na nydd oraugamp neddiawr Ragor
27 nid berth a chyngerth ywch Angor diefrflas
28 nid bas ba Rygafas Rywiog jfor
29 ny byddai lle bai ball hepcor Arnaw
30 ny bwyf fi hebddaw barawlaw bor
31 ny bydd anrhegydd vn Ragor nag ywch
32 ny bu ogyfywch neb ag jfor
33 hardd esillydd Rydd Rodd dydor veddlyn
34 heilwin vchelwin vawlwych jfor
35 heddiw nid ydiw nid gwiw jor gwyndal
36 haul haual ddyfal hylfydd jfor
37 hawdd ddydd yw yn Rydd Rwydd gyngor ddangos
38 hawdd nos hedd agos hoew eddygor
39 hawdd ymerth ai deifr hawdd Amor bevnydd
40 hawdd byd bryd brawdfydd ag jfor
41 hawl mawl mal wychdal echdor yn nherfysc
42 hawd vysg ddwfr ym ddysc Arddeu vnddor
43 hwyliais achefais ach jfor dirfing
44 heiliaw di gyfing haeldeg jfor
45 hairdd ddigairdd y vairdd vawrddor ariangrwydr
46 hu vrynawr hoewfrwydr hafren oror
47 hor oesog vu noe haer aesor vackwy
48 hwy huawdl ofwy fo heodl jfor
da y Red y waered etc
Davydd ap Gwilim ai kant