| Englynion i Ifor Hael | |
| O haelder, fy nêr, fy Nudd—a'm aergaer | |
| A'm eurgarw hael am fudd, | |
| Afarwy, gaethrwy gythrudd, | |
| 4 | Ofer un wrth Ifor udd. |
| O ddewredd hoywgledd, hyglaer—ymadrodd, | |
| A medru treio aer, | |
| O fawrgyrch hylithr, f'eurgaer, | |
| 8 | Ofer dau wrth Ifor daer. |
| O ddoethineb, neb nid nes ataw—Ffranc | |
| Nog o Ffrainc i Fanaw, | |
| I fwrw dadl swrth oddi wrthaw, | |
| 12 | Ofer dri wrth Ifor draw. |
| O ufudd-dawd, ffawd a ffydd—a chiried, | |
| A charu ei brydydd, | |
| Ofer bedwar, hawddgar hydd, | |
| 16 | Wrth Ifor, euriaith Ofydd. |
| O fonedd, trasedd, ŵr trasyth—a ffin, | |
| A ffyniant aml dilyth, | |
| O weilch, uchel wehelyth, | |
| 20 | Ofer bump wrth Ifor byth. |
| O gryfder, fy ffêr, ffyrf dëyrn—eurdeg | |
| Yn dwyn eurdo hëyrn, | |
| Faedd cad i faeddu cedyrn, | |
| 24 | Ofer chwech wrth Ifor chwyrn. |
| O degwch, brifflwch brafflyw—urddedig, | |
| Pendefig rhyfig rhyw, | |
| Ei fardd wyf, o ddwfn ystryw, | |
| 28 | Ofer saith wrth Ifor syw. |
| O ddisymlrwydd swydd, gyfansoddwr—bardd, | |
| Enaid beirdd a'u clydwr, | |
| Afar brwydr i fwrw bradwr, | |
| 32 | Ofer wyth wrth Ifor ŵr. |
| O gampau gorau a garaf—ar ŵr, | |
| Eryraidd y'i barnaf, | |
| O roddion aml a rhwyddaf, | |
| 36 | Ofer naw wrth Ifor naf. |
| O wychder, fy nêr un arial—â Ffwg, | |
| Morgannwg mawr gynnal, | |
| Ofer dyn, fwriad anial, | |
| 40 | Ofer deg wrth Ifor dal. |