Englynion i Ifor Hael
O ran haelioni, fy arglwydd, fy Nudd a'm noddfa mewn rhyfel
a'm carw gwych hael am elw,
Afarwy, cosbwr rhyfyg taeogion,
4 diwerth yw un o gymharu â'r pennaeth Ifor.
O ran dewrder â chleddyf chwim, ymadrodd eglur,
a'r gallu i droi llanw brwydr,
o ran ymosodiad mawr cyflym, fy noddfa wych,
8 diwerth yw dau o gymharu ag Ifor tanbaid.
O ran doethineb, nid oes yr un Ffrancwr sy'n nes ato
na'r pellter o Ffrainc i Ynys Manaw,
i wadu dadl gas,
12 diwerth yw tri o gymharu ag Ifor acw.
O ran gostyngeiddrwydd, ffortun a ffydd ac elusengarwch,
a charu ei fardd,
diwerth yw pedwar, carw hawddgar,
16 o gymharu ag Ifor, iaith wych Ofydd.
O ran bonedd, tras, gwr cefnsyth a phur,
a llwyddiant aml di-ffael,
o ran hebogiaid, llinach uchel,
20 diwerth yw pump byth o gymharu ag Ifor.
O ran cryfder, fy arwr, tywysog hardd, gwych a grymus
yn gwisgo helmed haearn gwych,
baedd brwydr i guro milwyr cryf,
24 diwerth yw chwech o gymharu ag Ifor ffyrnig.
O ran harddwch, pennaeth urddasol, cadarn a haelionus,
pendefig o natur fawreddog,
ei fardd wyf, o ran medrusrwydd dwfn,
28 diwerth yw saith o gymharu ag Ifor trwsiadus.
O ran urddas swydd, trefnwr bardd,
cyfaill beirdd a'u diogelwch,
cystudd brwydr i guro bradwr,
32 diwerth yw wyth o gymharu ag Ifor gwrol.
O ran y campau a garaf fwyaf ar wr,
fel eryr y mae yn fy marn i,
o ran anrhegion aml a mwyaf parod,
36 diwerth yw naw o gymharu â'r arglwydd Ifor.
O ran gwychder, fy arglwydd un ysbryd â Ffwg,
cynhaliwr mawr Morgannwg,
diwerth yw dyn, cynllun rhyfeddol,
diwerth yw deg o gymharu ag Ifor tal.