| Englynion i Ifor Hael | |
| O ran haelioni, fy arglwydd, fy Nudd a'm noddfa mewn rhyfel | |
| a'm carw gwych hael am elw, | |
| Afarwy, cosbwr rhyfyg taeogion, | |
| 4 | diwerth yw un o gymharu â'r pennaeth Ifor. |
| O ran dewrder â chleddyf chwim, ymadrodd eglur, | |
| a'r gallu i droi llanw brwydr, | |
| o ran ymosodiad mawr cyflym, fy noddfa wych, | |
| 8 | diwerth yw dau o gymharu ag Ifor tanbaid. |
| O ran doethineb, nid oes yr un Ffrancwr sy'n nes ato | |
| na'r pellter o Ffrainc i Ynys Manaw, | |
| i wadu dadl gas, | |
| 12 | diwerth yw tri o gymharu ag Ifor acw. |
| O ran gostyngeiddrwydd, ffortun a ffydd ac elusengarwch, | |
| a charu ei fardd, | |
| diwerth yw pedwar, carw hawddgar, | |
| 16 | o gymharu ag Ifor, iaith wych Ofydd. |
| O ran bonedd, tras, gŵr cefnsyth a phur, | |
| a llwyddiant aml di-ffael, | |
| o ran hebogiaid, llinach uchel, | |
| 20 | diwerth yw pump byth o gymharu ag Ifor. |
| O ran cryfder, fy arwr, tywysog hardd, gwych a grymus | |
| yn gwisgo helmed haearn gwych, | |
| baedd brwydr i guro milwyr cryf, | |
| 24 | diwerth yw chwech o gymharu ag Ifor ffyrnig. |
| O ran harddwch, pennaeth urddasol, cadarn a haelionus, | |
| pendefig o natur fawreddog, | |
| ei fardd wyf, o ran medrusrwydd dwfn, | |
| 28 | diwerth yw saith o gymharu ag Ifor trwsiadus. |
| O ran urddas swydd, trefnwr bardd, | |
| cyfaill beirdd a'u diogelwch, | |
| cystudd brwydr i guro bradwr, | |
| 32 | diwerth yw wyth o gymharu ag Ifor gwrol. |
| O ran y campau a garaf fwyaf ar ŵr, | |
| fel eryr y mae yn fy marn i, | |
| o ran anrhegion aml a mwyaf parod, | |
| 36 | diwerth yw naw o gymharu â'r arglwydd Ifor. |
| O ran gwychder, fy arglwydd un ysbryd â Ffwg, | |
| cynhaliwr mawr Morgannwg, | |
| diwerth yw dyn, cynllun rhyfeddol, | |
| diwerth yw deg o gymharu ag Ifor tal. | |