GDG 6
Mae'r gyfres hon o ddeg englyn unodl union yn seiliedig ar fformiwla yn llinell gyntaf ac olaf pob un sy'n ffordd o restru rhagoriaethau Ifor Hael. Yr ailadrodd hwn yw'r unig gyswllt ffurfiol rhwng yr englynion, ond mae'r rhifau cynyddol yn sicrhau eu trefn.
Cadwyd 24 copi o'r gerdd hon. Y cynharaf yw'r un yn llaw Syr Huw Pennant yn Pen 182 (tua 1514), ond mae rhai darlleniadau unigryw yn hwnnw sy'n awgrymu dibynnu ar y cof. Mae'r copi yn H 26 yn llaw Lewys ap [ ] o Hiraethog (gw. ei lythyr at Thomas Wiliems a ddyfynnir yn RWM ii, 3445), ac mae'r ysgrifen hen-ffasiwn yn awgrymu bod yn Lewys hwn yn fardd. Mae M 144 hefyd yn cynnwys darlleniadau unigryw. Ond ar y cyfan mae'r testunau'n bur debyg i'w gilydd, ac mae'n debyg bod un gynsail y tu ôl iddynt. Yr unig wahaniaeth sylweddol yw presenoldeb englyn ychwanegol mewn rhai (H 26, M 144, M 148, LlGC 6209, Br 2 a Ll 118), sef fersiwn ar y trydydd englyn yn 'Marwnad Ifor a Nest (rhif 17). Dengys y cyrch-gymeriad ei fod yn perthyn yn y gerdd honno. Fe'i haddaswyd i'r gerdd hon trwy newid amser y ferf yn y llinell gyntaf, ond mae'r ffaith nad yw i'w gael yn Pen 182 na G 3 yn awgrymu'n gryf nad yw'n perthyn yma.
Cynghanedd: sain 14 ll. (35%); traws 14 ll. (35%); croes 9 ll. (23%); llusg 2 l. (5%); un llinell braidd gyffwrdd. Y rheswm am y ganran uchel o gynghanedd draws yw'r fformiwla yn llinell olaf pob englyn. Gw. ymhellach Crawford, 1985.
1. Nudd Un o'r Tri Hael, ac felly patrwm o haelioni, gw. TYP3 464–6.
3. Afarwy mab Lludd ap Beli yn Brut y Brenhinedd, gw. TYP3 276–7 a chymh. CBT I, 17.40. Digwydd y gair fel enw cyffredin, 'tristwch', sef ffurf ar afar, gw. GPC2 96. Ceir afar yw gaethryw mewn rhai llsgrau ac yn GDG, ond hwn yw'r darlleniad anos yma, a digwydd afar yn ll. 31 isod.
12. ofer dri Treiglad afreolaidd, gw. TC 54. Ceir yr un treiglad yn llau 15 ac 20, ond y ffurf gysefin a geir yn 8 a 40.
15. bedwar Mae'r llsgrau'n gytûn o blaid y treiglad, er nad yw'n gwneud gwahaniaeth i'r gynghanedd. Gw nodyn 12 uchod.
hawddgar hydd Mae darlleniad GDG, rwyddbar rydd, yn seiliedig ar Pen 182, rhoddbar rhydd, ond nid oes dim o'i le ar ddarlleniad y llsgrau eraill.
16. Ofydd Cyfeirir at y bardd Lladin Ovid fel awdurdod ym maes y canu serch fel arfer, gw. 95.1n ayb.
17. trasedd Hon yw'r unig enghraifft o'r gair heblaw un gan Iolo Morganwg, gw. GPC 3558. Prin bod trosedd Pen 182 (trawsedd G 3) yn briodol o ran synnwyr.
trasyth Gallai fod yn ddisgrifiad corfforol, neu'n ffigurol am ei ach.
ffin O'r Saesneg fine, gw. GPC 1289. Mae'r enghraifft a nodir gan Ddafydd Nanmor (gw. OBWV t. 150) yn disgrifio gwin, felly 'pur', a byddai hynny'n ddigon addas yng nghyd-destun ach, ond fe'i ceir yng ngeiriadur Thomas Wiliems yn yr ystyr 'bonheddig'. Dilynwyd darlleniad unigryw M 144, yw ei ffon, yn GDG, ond mae'n amlwg mai ffrwyth ailwampio yw hwnnw.
uchel wehelyth Tras Ifor a olygir, mae'n debyg, ond nid annichon mai at y gweilch y cyfeirir.
21. ffêr Pen 182 yn unig, ond mae nêr y llsgrau eraill yn anfoddhaol o ran cynghanedd. Cymh. 6.85.
dëyrn M 144 yn unig sy'n cefnogi darlleniad GDG, erddyrn.
22. eurdo Mae ailadrodd eur- braidd yn amheus, ac efallai y dylid diwygio i aerdo (cymh. 1–2).
23. faedd Mae'r llinell hon yn torri ar y cymeriad llafarog a geir yn llau 1, 3 a 4 ym mhob englyn arall. Efallai y dylid dilyn Pen 182 a darllen O faedd cad a faidd cedyrn, er mai priodoleddau Ifor sy'n dilyn o ym mhobman arall yn y gerdd. Nid oes cefnogaeth yn y llsgrau cynnar i ddarlleniad GDG, ofydd. Mae'n ansicr, felly, a ydyw ystyr (b) a roddir i'r gair ofydd yn GPC 2633, 'meistr, pencampwr', yn ddilys.
27. Cynghanedd braidd gyffwrdd.
37. Ffwg Fulk fitz Waryn, arglwydd Whittington yn sir Amwythig, a fu'n herwr yn ystod teyrnasiad y brenin John ac a ddaeth yn arwr y chwedl Eingl-Normanaidd Fouke le fitz Waryn (gol. C. A. Robson et al., Oxford, 1975). Cymh. GIG III.41, XXXIII.50.