Pen 182, 151–3   
   
 
1    O haelder vy ner vy nudd am eurgar mowrgar
2    Am eurgarw hael am vudd
3    Agarwyf gaethrwyf gythrudd
4    over vn wrth Ivor vdd
 
5    Oddewrder hygler hoywgler ymadrodd
6    yn medru treio aer
7    [152] Ivowrgyrch alithyr vy eurgaer
8    Over dav wrth ivor daer
 
9    O ddoethineb neb nid nes atto neb ffranck
10    Nog o ffrainck i vanaw
11    O vwrw dadl swrth oddiwrthaw
12    Over dri wrth ivor draw
 
13    O vuydddawd ffawd a ffydd achariad
14    acharv i brydydd
15    Over bedwar rhoddbar rhydd
16    Wrth Ivor euriaith vfydd
 
17    Ovonedd trosedd wr trasyth malffin
18    Affyniant amyl dilyth
19    O weilch vchel wehelyth
20    Over bump wrth Ivor byth
 
21    Owir gryfder ffer ffyrf ffyr deyrn eurdeg
22    yn dwyn eurdo heyrn
23    O vaedd kadarn avaedd kedyrn
24    [153] Over chwech wech wrth Ivor chwyrn
 
25    O degwch fflwch ffraethlyw vrddedig
26    Pendefig rhyfig rhyw
27    I vardd wyf o ddwfn ystryw
28    Over saith wrth Ivor syw
 
29    O ddisymylrwydd swydd kyfansoddwr bardd
30    Enaid beirdd ai klydwr
31    Over brwydr i vwrw bradwr
32    Over wyth wrth Ivor wr
 
33    O gampav gorav agaraf ar wr
34    Eryrawl i barnaf
35    Oroddi pan vai rwyddaf
36    Over naw wrth Ivor naf
 
37    Owychder vy ner vn arial a ffwg
38    Morgannwg mur gynnal
39    Over dyn vwriad anial
40    Over deg wrth Ivor dal
 
    dd' ap Gwilym