Englynion Ifor Hael
1 O haelder fy nêr fy nudd am haelaur garw
2 am heurgorff hael am fudd
3 Adde rwyf goethrwy gythrudd
4 ofer vn wrth ifor rudd
5 O ddewrder hygler hoywglaer ymadrodd
6 a medrv treio aer
7 o fowrgyrch lythr fevrgaer
8 ofer dau wrth Ifor daer
9 O ddoethineb neb nid nes attaw ffrangc
10 nag o ffrainc i fanaw
11 i fwrw dadl swrth o ddiwrthaw
12 ofer dri wrth Ifor draw
13 O vfudddawd ffawd a ffydd wych eiriau
14 a charv i brydydd
15 ofer bedwar howddgar hydd
16 wrth Ifor araith ofydd
17 O fonedd Traffedd trasyth yw i ffonn
18 ffynniant vchel dilyth
19 o weilch digel wehelyth
20 ofer bvmp wrth Ifor byth
21 O gryfder fy nêr ffyrf erddyrn eurdeg
22 yn dwyn eurdo tevyrn
23 a ai farr coed i fwrw cedyrn
24 Ofer chwech wrth Ifor chwyrn
25 [748] O degwch priffwch praff lyw aur benaeth
26 arbenig rhyfig rhyw
27 i fardd wyf o ddyfn ystryw
28 ofer saith wrth Ifor syw
29 O ddisymlrwydd swydd cynnwyssoddwr bardd
30 enaid beirdd ai clydwr
31 o ferw brwydr i fwrw bradwr
32 ofer wyth wrth Ifor wr
33 O gampau gorau a garaf ar wr
34 eryraidd i barnaf
35 a rhoddi pann fo rhwyddaf
36 ofer naw wrth Ifor naf
37 O wchder fy nêr vn Arial a ffwg
38 morgannwg mawr gynnal
39 o fryd Iawn fwriad Anial
40 ofer deg wrth Ifor dâl
41 Gorav wyd Ifor gorff syth yn rhi
42 yn rhoi deifr ar esyth
43 a fw vchel wehelyth
44 ar y sydd ag a fydd fyth