M 144, 747–8   
    Englynion Ifor Hael
 
1    O haelder fy nêr fy nudd am haelaur garw
2    am heurgorff hael am fudd
3    Adde rwyf goethrwy gythrudd
4    ofer vn wrth ifor rudd
 
5    O ddewrder hygler hoywglaer ymadrodd
6    a medrv treio aer
7    o fowrgyrch lythr fevrgaer
8    ofer dau wrth Ifor daer
 
9    O ddoethineb neb nid nes attaw ffrangc
10    nag o ffrainc i fanaw
11    i fwrw dadl swrth o ddiwrthaw
12    ofer dri wrth Ifor draw
 
13    O vfudddawd ffawd a ffydd wych eiriau
14    a charv i brydydd
15    ofer bedwar howddgar hydd
16    wrth Ifor araith ofydd
 
17    O fonedd Traffedd trasyth yw i ffonn
18    ffynniant vchel dilyth
19    o weilch digel wehelyth
20    ofer bvmp wrth Ifor byth
 
21    O gryfder fy nêr ffyrf erddyrn eurdeg
22    yn dwyn eurdo tevyrn
23    a ai farr coed i fwrw cedyrn
24    Ofer chwech wrth Ifor chwyrn
 
25    [748] O degwch priffwch praff lyw aur benaeth
26    arbenig rhyfig rhyw
27    i fardd wyf o ddyfn ystryw
28    ofer saith wrth Ifor syw
 
29    O ddisymlrwydd swydd cynnwyssoddwr bardd
30    enaid beirdd ai clydwr
31    o ferw brwydr i fwrw bradwr
32    ofer wyth wrth Ifor ŵr
 
33    O gampau gorau a garaf ar wr
34    eryraidd i barnaf
35    a rhoddi pann fo rhwyddaf
36    ofer naw wrth Ifor naf
 
37    O wchder fy nêr vn Arial a ffwg
38    morgannwg mawr gynnal
39    o fryd Iawn fwriad Anial
40    ofer deg wrth Ifor dâl
 
41    Gorav wyd Ifor gorff syth yn rhi
42    yn rhoi deifr ar esyth
43    a fw vchel wehelyth
44    ar y sydd ag a fydd fyth