|
M 144, 747–8 |
|
| |
Englynion Ifor Hael |
| |
| 1 |
O haelder fy nêr fy nudd am haelaur garw |
| 2 |
am heurgorff hael am fudd |
| 3 |
Adde rwyf goethrwy gythrudd |
| 4 |
ofer vn wrth ifor rudd |
| |
| 5 |
O ddewrder hygler hoywglaer ymadrodd |
| 6 |
a medrv treio aer |
| 7 |
o fowrgyrch lythr fevrgaer |
| 8 |
ofer dau wrth Ifor daer |
| |
| 9 |
O ddoethineb neb nid nes attaw ffrangc |
| 10 |
nag o ffrainc i fanaw |
| 11 |
i fwrw dadl swrth o ddiwrthaw |
| 12 |
ofer dri wrth Ifor draw |
| |
| 13 |
O vfudddawd ffawd a ffydd wych eiriau |
| 14 |
a charv i brydydd |
| 15 |
ofer bedwar howddgar hydd |
| 16 |
wrth Ifor araith ofydd |
| |
| 17 |
O fonedd Traffedd trasyth yw i ffonn |
| 18 |
ffynniant vchel dilyth |
| 19 |
o weilch digel wehelyth |
| 20 |
ofer bvmp wrth Ifor byth |
| |
| 21 |
O gryfder fy nêr ffyrf erddyrn eurdeg |
| 22 |
yn dwyn eurdo tevyrn |
| 23 |
a ai farr coed i fwrw cedyrn |
| 24 |
Ofer chwech wrth Ifor chwyrn |
| |
| 25 |
[748] O degwch priffwch praff lyw aur benaeth |
| 26 |
arbenig rhyfig rhyw |
| 27 |
i fardd wyf o ddyfn ystryw |
| 28 |
ofer saith wrth Ifor syw |
| |
| 29 |
O ddisymlrwydd swydd cynnwyssoddwr bardd |
| 30 |
enaid beirdd ai clydwr |
| 31 |
o ferw brwydr i fwrw bradwr |
| 32 |
ofer wyth wrth Ifor ŵr |
| |
| 33 |
O gampau gorau a garaf ar wr |
| 34 |
eryraidd i barnaf |
| 35 |
a rhoddi pann fo rhwyddaf |
| 36 |
ofer naw wrth Ifor naf |
| |
| 37 |
O wchder fy nêr vn Arial a ffwg |
| 38 |
morgannwg mawr gynnal |
| 39 |
o fryd Iawn fwriad Anial |
| 40 |
ofer deg wrth Ifor dâl |
| |
| 41 |
Gorav wyd Ifor gorff syth yn rhi |
| 42 |
yn rhoi deifr ar esyth |
| 43 |
a fw vchel wehelyth |
| 44 |
ar y sydd ag a fydd fyth |
| |