Ll 118, 373–4   
    englynion i ifor hael
 
1    o haelder fy ner fy nvdd a mawrgaer
2    am eurgarw hael am fvdd
3    afar yw gaethryw gythrvdd
4    ofer vn wrth ifor Rvdd
 
5    o ddewredd hoywgledd hyglaer ymadrodd
6    a medrv treio aer
7    o fowrglod i llithro veurglaer
8    ofer dav wrth ifor daer
 
9    [374] o ddoethineb neb nid nes attaw ffrank
10    nag o ffraink i fanaw
11    i fwrw dadl swrth oddiwrthaw
12    ofer dri wrth ifor draw
 
13    o vfydddawd ffawd a ffydd a chvried
14    a charv y brydydd
15    ofer bedwar hawddgar hydd
16    wrth ifor euriaith ofydd
 
17    o fonedd trasedd wr trasyth a ffein
18    a ffyniant aml ddilyth
19    o weilch ychel gwehelyth
20    ofer bvmp wrth ifor byth
 
21    o gryfder fy ner ffyrf devrn eurdeg
22    yn dwyn eurdo heyrn
23    faedd kad i faeddu kedyrn
24    ofer chwech wrth ifor chwyrn
 
25    o degwch brif fflwch braff lyw vrddedig
26    bendefig ryfig ryw
27    i fardd wyf o ddwfn ystryw
28    ofer saith wrth ifor syw
 
29    o ddisymlrwydd swydd gyfansoddwr bordd
30    enaid beirdd ai clydwr
31    afar brwydr i fwrw bradwr
32    ofer wyth wrth ifor wr
 
33    o gampav gorav a garaf ar wr
34    eryraidd i barnaf
35    o roddion aml arwyddaf
36    ofer naw wrth ifor naf
 
37    o wchder fy ner vn arail arial a ffwg
38    morganwg mawr gynal
39    ofer dyn fwriad anial
40    ofer deg wrth ifor dal
 
41    gore gwr yw ifor gorff syth yn rhi
42    yn rhoi deifr ar esyth
43    a fo ddigel wehelyth
44    ar y sydd ag a fydd fyth
 
    dd ap glm ai kant