1 O haelder fy Nêr fy Nudd, a'm heur garw
2 am eurgar hael am fudd
3 Afar yw gaethryw gythrudd
4 Ofer vn wrth Ifor vdd.
5 O ddewredd hoiw-gledd, hyglaer ymadrodd
6 yn medru treio aer,
7 ei fawr-glod y llithr f'eurglaer
8 ofer dau wrth Ifor daer.
9 O ddoethineb neb nid nes attaw ffrangc
10 nac o ffraingc hyd FANAW
11 I fwrw dadl swrth oddiwrthaw,
12 ofer dri wrth Ifor draw.
13 O vfydd-dawd ffawd ffydd a churied
14 a charu ei brydydd,
15 ofer bedwar hawddgar hydd
16 wrth Ifor eiriaith Ofydd.
17 O fonedd trawsedd, wr trasyth a ffîn
18 a ffynniant aml dilyth
19 o weilch vchel wehelyth
20 ofer bump wrth Ifor byth.
21 O gryfder fy ner ffyrf a'u déýrn eurdeg
22 yn dwyn eur-dô héýrn
23 baedd câd yn baeddu cedyrn
24 ofer chwech, wrth Ifor chwyrn
25 [175a] O degwch prif fflwch praff lyw vrddedig
26 pendefig rhyfig rhyw
27 ystryw
28 ofer saith wrth Ifor syw.
29 O ddissymlrwydd swydd gyfansodd-wr bardd
30 enaid beirdd a'u clydwr
31 afar brwydr i fwrw bradwr
32 ofer wyth wrth Ifor wr.
36 ofer naw wrth Ifor naf.
37 O wychder fy nêr vn arial a Ffwg
38 Morganwg mawr gynnal
39 ofer dyn fwriad anial
40 ofer deg wrth Ifor dal.
Dafydd mab Gwilym, i foliant Ifor hael