Owdwl foliant o Englynion i Ifor hael
1 O haelder fy Ner fy Nudd am mawrgaer
2 am eurgarw hael am fudd
3 afar yw gaethryw gythrudd
4 ofer un wrth Ifor udd
5 Oddewredd hoiwgledd hyglaer ymadrodd
6 a medru treio aer
7 o fowrglod hylythr feurglaer
8 ofer dau wrth Ifor daer
9 O ddoethineb neb nid nes attaw ffrank
10 nag o ffraink i Vanaw
11 o fwrw dyn swrth odd i wrthaw
12 ofer dri wrth Ifor draw
13 O ufudddawd ffawd a ffydd a chariad
14 a charu ei brydydd
15 ofer bedwar howddgar hydd
16 wrth Ifor euriaith Ovydd
17 O vonedd trassedd wr trasyth a ffein
18 a ffynniant aml dilyth
19 o weilch uchel wehelyth
20 ofer bump wrth Ifor byth
21 O gryfder fy ner ffyrf deyrn eurdeg
22 yn dwyn eurdo heyrn
23 vaedd kad i vaeddu kedyrn
24 ofer chwech wrth Ifor chwyrn
25 O degwch prif ffwch praff lyw urddedig
26 bendefig ryfig ryw
27 ei fardd wyf orddwfn ystryw
28 ofer saith wrth Ifor syw
29 O ddisymlrwydd swydd gyfansoddwr bardd
30 enaid beirdd ai klydwr
31 afar brwydr i fwrw brawdwr
32 ofer wyth wrth Ifor wr
33 O gampau gorau a garaf ar wr
34 eryraidd i barnaf
35 o roddion aml arwyddaf
36 ofer naw wrth Ifor naf
37 O wychder fy Ner un arial a ffwk
38 Morgannwg mawr gynnal
39 ofer dim fwriad amal
40 ofer deg wrth Ifor dal
41 Gorau gwr yw Ifor gorff syth yn rrif
42 yn roi deifr ar essyth
43 a fu ddigel wehelyth
44 ar y sydd ag a fydd fyth
Dafydd ap Gwilym ai kant