LLGC 6209, 230   
    Owdwl foliant o Englynion i Ifor hael
 
1    O haelder fy Ner fy Nudd am mawrgaer
2    am eurgarw hael am fudd
3    afar yw gaethryw gythrudd
4    ofer un wrth Ifor udd
 
5    Oddewredd hoiwgledd hyglaer ymadrodd
6    a medru treio aer
7    o fowrglod hylythr feurglaer
8    ofer dau wrth Ifor daer
 
9    O ddoethineb neb nid nes attaw ffrank
10    nag o ffraink i Vanaw
11    o fwrw dyn swrth odd i wrthaw
12    ofer dri wrth Ifor draw
 
13    O ufudddawd ffawd a ffydd a chariad
14    a charu ei brydydd
15    ofer bedwar howddgar hydd
16    wrth Ifor euriaith Ovydd
 
17    O vonedd trassedd wr trasyth a ffein
18    a ffynniant aml dilyth
19    o weilch uchel wehelyth
20    ofer bump wrth Ifor byth
 
21    O gryfder fy ner ffyrf deyrn eurdeg
22    yn dwyn eurdo heyrn
23    vaedd kad i vaeddu kedyrn
24    ofer chwech wrth Ifor chwyrn
 
25    O degwch prif ffwch praff lyw urddedig
26    bendefig ryfig ryw
27    ei fardd wyf orddwfn ystryw
28    ofer saith wrth Ifor syw
 
29    O ddisymlrwydd swydd gyfansoddwr bardd
30    enaid beirdd ai klydwr
31    afar brwydr i fwrw brawdwr
32    ofer wyth wrth Ifor wr
 
33    O gampau gorau a garaf ar wr
34    eryraidd i barnaf
35    o roddion aml arwyddaf
36    ofer naw wrth Ifor naf
 
37    O wychder fy Ner un arial a ffwk
38    Morgannwg mawr gynnal
39    ofer dim fwriad amal
40    ofer deg wrth Ifor dal
 
41    Gorau gwr yw Ifor gorff syth yn rrif
42    yn roi deifr ar essyth
43    a fu ddigel wehelyth
44    ar y sydd ag a fydd fyth
 
    Dafydd ap Gwilym ai kant