â â â Cywydd Mawl i Ifor Hael
1â â â Ifor, aur o faerwriaeth
2â â â Deg yw'r fau, diegr o faeth.
3â â â Dewraf wyd ac euraf gwr
4â â â Dy ddilyn, dieiddilwr:
5â â â Myned o'm gwlad, dyfiad iôr,
6â â â Â'th glod, a dyfod, Ifor.
7â â â Myfi yw, ffraethlyw ffrwythlawn,
8â â â Maer dy dda, mawr yw dy ddawn.
9â â â Ys dewr, ystyriol ydwyd,
10â â â Ystôr ym, ys da wr wyd.
11â â â Telais yt wawd tafawd hoyw,
12â â â Telaist ym fragod duloyw.
13â â â Rhoist ym swllt, rhyw ystum serch,
14â â â Rhoddaf yt brifenw Rhydderch.
15â â â Cyfarf arf, eirf ni'th weheirdd,
16â â â Cyfaillt a mab aillt y beirdd,
17â â â Cadarn wawr, cedyrn wiwryw,
18â â â Caeth y glêr, cywaethog lyw.
19â â â Da wyd a syberw dy ach,
20â â â Duw a fedd, dau ufuddach
21â â â Wyd i'th fardd, pellgardd pwyllgall,
22â â â Llywiwr llu, no'r llaw i'r llall.
23â â â O'm iaith y rhylunieithir,
24â â â Air nid gwael, arnad y gwir.
25â â â O'm pen fy hun, pen cun cyrdd,
26â â â Y'th genmyl wyth ugeinmyrdd.
27â â â Hyd yr ymddaith dyn eithaf,
28â â â Hyd y try, hwyl hy, haul haf,
29â â â Hyd yr hëir y gwenith,
30â â â A hyd y gwlych hoywdo gwlith,
31â â â Hyd y sych gwynt, hynt hyntiaw,
32â â â A hyd y gwlych hoywdeg law,
33â â â Hyd y gwyl golwg digust,
34â â â Hydr yw, a hyd y clyw clust,
35â â â Hyd y mae iaith Gymräeg,
36â â â A hyd y tyf hadau teg,
37â â â Hardd Ifor, hoywryw ddefod,
38â â â Hir dy gledd, hëir dy glod.