| Cywydd Mawl i Ifor Hael | |
| Ifor, aur o faerwriaeth | |
| Deg yw'r fau, diegr o faeth. | |
| Dewraf wyd ac euraf gŵr | |
| 4 | Dy ddilyn, dieiddilwr: |
| Myned o'm gwlad, dyfiad iôr, | |
| Â'th glod, a dyfod, Ifor. | |
| Myfi yw, ffraethlyw ffrwythlawn, | |
| 8 | Maer dy dda, mawr yw dy ddawn. |
| Ys dewr, ystyriol ydwyd, | |
| Ystôr ym, ys da ŵr wyd. | |
| Telais yt wawd tafawd hoyw, | |
| 12 | Telaist ym fragod duloyw. |
| Rhoist ym swllt, rhyw ystum serch, | |
| Rhoddaf yt brifenw Rhydderch. | |
| Cyfarf arf, eirf ni'th weheirdd, | |
| 16 | Cyfaillt a mab aillt y beirdd, |
| Cadarn wawr, cedyrn wiwryw, | |
| Caeth y glêr, cywaethog lyw. | |
| Da wyd a syberw dy ach, | |
| 20 | Duw a fedd, dau ufuddach |
| Wyd i'th fardd, pellgardd pwyllgall, | |
| Llywiwr llu, no'r llaw i'r llall. | |
| O'm iaith y rhylunieithir, | |
| 24 | Air nid gwael, arnad y gwir. |
| O'm pen fy hun, pen cun cyrdd, | |
| Y'th genmyl wyth ugeinmyrdd. | |
| Hyd yr ymddaith dyn eithaf, | |
| 28 | Hyd y try, hwyl hy, haul haf, |
| Hyd yr hëir y gwenith, | |
| A hyd y gwlych hoywdo gwlith, | |
| Hyd y sych gwynt, hynt hyntiaw, | |
| 32 | A hyd y gwlych hoywdeg law, |
| Hyd y gwŷl golwg digust, | |
| Hydr yw, a hyd y clyw clust, | |
| Hyd y mae iaith Gymräeg, | |
| 36 | A hyd y tyf hadau teg, |
| Hardd Ifor, hoywryw ddefod, | |
| Hir dy gledd, hëir dy glod. | |