Nodiadau: 13 - Cywydd Mawl i Ifor Hael

Fersiwn hwylus i

GDG 7; SPDG 44

Fe ymddengys mai yn y cywydd hwn y bedyddiodd Dafydd ei noddwr yn Ifor Hael trwy ddatgan 'Rhoddaf yt brifenw Rhydderch' (ll. 14). Ni ddefnyddir yr enw fel y cyfryw yn y cywydd hwn, a'r unig enghraifft ohono yn saith cerdd Dafydd i Ifor yw'r un ar ddiwedd 'Diolch am Fenig' (15.60), ond fe'i hadwaenid wrth yr enw hwnnw yn gyson gan feirdd y 15fed ganrif (gw. GLGC t. 662 am restr o'r cyfeiriadau ato gan Lewys Glyn Cothi).

Mae'r cywydd hwn i'w gael mewn 24 o lawysgrifau. Roedd testun ohono yn y Vetustus, fel y dengys y copïau uniongyrchol yn H 26 a Pen 49. Ceir dau gwpled ychwanegol yn BM 23 (ond mae chwech yn eisiau hefyd), ac un arall yn Pen 76, felly mae'n rhaid bod y ddwy'n cynrychioli cam cynharach yn yr un traddodiad. Ac er bod testun C 7 yr un fath â'r Vetustus o ran nifer a threfn llinellau, mae ambell ddarlleniad (e.e. diegr yn ll. 2) yn awgrymu ei fod yn annibynnol arno. Nid yw trefn llinellau GDG yn adlewyrchu'r un o'r testunau llawysgrif, ac nid yw'n glir pam y symudwyd 3–4 a 5–6 gan eu bod yn rhan hanfodol o ddelweddaeth y paragraff cyntaf.

Cynghanedd: croes 16 ll. (42%); sain 11 ll. (29%); traws 4 ll. (11%); llusg 2 l. (5%); dwy linell bengoll, un braidd gyffwrdd, a dwy ddigynghanedd (13%).

1. maerwriaeth   Roedd y maer yn un o swyddogion y llys yng nghyfnod y Tywysogion, a'i swyddogaeth oedd goruchwylio tiroedd a chasglu trethi (ond y term arferol yn y cyfreithiau yw maeron(i)aeth, gw. GPC 2312). Yn y llinellau nesaf cyffelybir gwaith y bardd yn lledaenu clod ei noddwr i waith y maer yn mynd allan o'r llys i gasglu trethi. Cymh. GIG V.72.

2. diegr   C 7 a Ll 120 yn unig. Ceir diagr yn y lleill, ac yn GDG, ond mae hwn yn fwy ystyrlon gyda maeth. Cymh. 32.50.

3. euraf   BM 23; ceir vrdda yn Pen 76, gryfaf yn C 7, a gwrddaf yn H 26 a Pen 49. Yr olaf a dderbyniwyd yn GDG, ond mae euraf yn cynnal y syniad o dderbyn cyfoeth am wasanaeth. Mae'n bosibl bod gwrddaf gŵr yn atgof o 16.17.

5–6.   Yn BM 23 yn unig y ceir y llinellau hyn, ond maent yn ymhelaethiad allweddol ar ddelweddaeth y paragraff.

9.   Cynghanedd bengoll.

12. bragod   diod frag a wneid trwy eplesu cwrw a mêl ynghyd.

14. prifenw Rhydderch   sef Rhydderch Hael, un o'r Tri Hael, gw. TYP3, 493–5. Mae prifenw yn cyfeirio at yr epithet, o bosibl yn yr ystyr 'enw mawr', neu 'enw gwreiddiol', gw. GPC 2888. Cymh. cyhafal Rhydderch yn 16.19.

15. cyfarf arf   Cymh. GGM I, 4.7 a 41, GPB 6.4. Ystyr cyfarf yma yw 'wedi ei gwbl arfogi', gw. GPC 682.

16. mab aillt   Mae blas dirmygus i'r ymadrodd yn 88.12 lle cyfeirir at daeogion go-iawn, ond fe'i defnyddir yn ffigurol yma yn yr ystyr bod Ifor yn gwasanaethu'r beirdd.

18. cywaethog   Hon yw'r ffurf a geir ym mhob un o'r llsgrau cynnar, ac fe'i nodir fel ffurf amrywiol ar cyfoethog yn GPC 708.

23. rhylunieithir   Y ferf yw lluniaethu, ac nid oes grym penodol amlwg i'r rhagddodiad (gw. GPC 3122 s.v. rhy2 (a) am enghrau eraill o flaen berfau presennol a dyfodol mynegol).

25–6   BM 23 yn unig, a fersiwn carbwl braidd a geir yn y fan honno. Bu'n rhaid diwygio keirdd i cyrdd er mwyn y brifodl, a gemyl i genmyl er mwyn y gynghanedd.

25. cyrdd   Cymerir mai ffurf luosog cordd, 'llwyth, teulu; torf, mintai' (GPC 557) yw hon, ond nid annichon mai lluosog cerdd ydyw (gw. GPC 465).

29.   Llinell ddigynghanedd.

30. hoywdo   BM 23 yn unig, ond hwn yw'r darlleniad anos. Mae'n debyg mai dylanwad 32 isod sy'n gyfrifol am hoywdeg y llsgrau eraill.

31–2.   Pen 76 yn unig. Ni chynhwyswyd y cwpled yn nhestun GDG, efallai am fod yr ail linell yn rhy debyg i 30. Ond o ddarllen hoywdo yn 30 mae'r ddwy linell yn ddigon gwahanol, ac mae'r ymadrodd hynt hyntiaw yn digwydd eto yn 86.55.

33. digust   Hon yw'r unig enghraifft a nodir yn GPC 1002, lle rhoddir yr ystyron 'clir, agored, diorchudd, di-len'. Mewn nodyn ar y gair yn B xi (1941–4), 83, cynigia Ifor Williams fod cust yn tarddu o'r un gwreiddyn â cuddio ac â'r Lladin obscurus.

  Cynghanedd braidd gyffwrdd.

35.   Llinell ddigynghanedd.

38.   Cymh. diweddglo awdl Prydydd y Moch i Wenllïant, 'ei chlod a he / Hyd y daerawd haul, hyd y dwyre' (CBT V, 14.37–8).