â â â Basaleg
1â â â Cerdda was, câr ddewiswyrdd,
2â â â Ceinfyd gwymp, is caenfedw gwyrdd;
3â â â O Forgannwg dwg ddydd da
4â â â I Wynedd, heilfedd hwylfa,
5â â â Ac annwyl wyf, befrnwyf byd,
6â â â Ac annerch wlad Fôn gennyd.
7â â â Dywaid, i'm gwlad ni'm gadwyd,
8â â â Duw a'i gwyr, dieuog wyd,
9â â â Fy mod es talm, salm Selyf,
10â â â Yn caru dyn uwch Caerdyf.
11â â â Nid salw na cham fy namwain,
12â â â Nid serch ar finrhasglferch fain,
13â â â Mawrserch Ifor a'm goryw,
14â â â Mwy no serch ar ordderch yw.
15â â â Serch Ifor a glodforais,
16â â â Nid fal serch anwydful Sais,
17â â â Ac nid af, perffeithiaf pôr,
18â â â Os eirch ef, o serch Ifor,
19â â â Nac undydd i drefydd drwg,
20â â â Nac unnos o Forgannwg.
21â â â Pand digrif yng ngwydd nifer
22â â â Caru, claernod saethu, clêr?
23â â â Goludog hebog hybarch,
24â â â Gwr ffyrf iawn ei gorff ar farch.
25â â â Gwr yw o hil goreuwawr,
26â â â Gwiw blaid, helm euraid, hael mawr;
27â â â Cwympwr aer cyflymdaer coeth,
28â â â Cwmpasddadl walch campusddoeth;
29â â â Carw difarw, Deifr ni oddef,
30â â â Cywir iawn y câi wyr ef;
31â â â Ufudd a da ei ofeg,
32â â â Ofer dyn wrth Ifor deg.
33â â â Mawr anrhydedd a'm deddyw:
34â â â Mi a gaf, o byddaf byw,
35â â â Hely â chwn, nid haelach iôr,
36â â â Ac yfed gydag Ifor,
37â â â A saethu rhygeirw sythynt
38â â â A bwrw gweilch i wybr a gwynt,
39â â â A cherddau tafodau teg
40â â â A solas ym Masaleg;
41â â â Gware ffristiawl a thawlbwrdd
42â â â Yn un gyflwr â'r gwr gwrdd.
43â â â O châi neb, cytundeb coeth,
44â â â Rhagor rhag y llall rhygoeth,
45â â â Rhugl â cherdd y'i anrhegaf,
46â â â Rhagor rhag Ifor a gaf.
47â â â Nid hael wrth gael ei gyfryw,
48â â â Nid dewr neb; band tëyrn yw?
49â â â Nid af o'i lys, diful iôr,
50â â â Nid ufudd neb ond Ifor.