Error processing Anastasia style in file "viewImage.anv" for element "begin": can't read "httppost(img)": no such element in array in line 1

Testun GolygedigBasalegCerdda was, câr ddewiswyrdd, Ceinfyd gwymp, is caenfedw gwyrdd; O Forgannwg dwg ddydd da I Wynedd, heilfedd hwylfa, Ac annwyl wyf, befrnwyf byd, Ac annerch wlad Fôn gennyd. Dywaid, i'm gwlad ni'm gadwyd, Duw a'i gwyr, dieuog wyd, Fy mod es talm, salm Selyf, Yn caru dyn uwch Caerdyf. Nid salw na cham fy namwain, Nid serch ar finrhasglferch fain, Mawrserch Ifor a'm goryw, Mwy no serch ar ordderch yw. Serch Ifor a glodforais, Nid fal serch anwydful Sais, Ac nid af, perffeithiaf pôr, Os eirch ef, o serch Ifor, Nac undydd i drefydd drwg, Nac unnos o Forgannwg. Pand digrif yng ngwydd nifer Caru, claernod saethu, clêr? Goludog hebog hybarch, Gwr ffyrf iawn ei gorff ar farch. Gwr yw o hil goreuwawr, Gwiw blaid, helm euraid, hael mawr; Cwympwr aer cyflymdaer coeth, Cwmpasddadl walch campusddoeth; Carw difarw, Deifr ni oddef, Cywir iawn y câi wyr ef; Ufudd a da ei ofeg, Ofer dyn wrth Ifor deg. Mawr anrhydedd a'm deddyw: Mi a gaf, o byddaf byw, Hely â chwn, nid haelach iôr, Ac yfed gydag Ifor, A saethu rhygeirw sythynt A bwrw gweilch i wybr a gwynt, A cherddau tafodau teg A solas ym Masaleg; Gware ffristiawl a thawlbwrdd Yn un gyflwr â'r gwr gwrdd. O châi neb, cytundeb coeth, Rhagor rhag y llall rhygoeth, Rhugl â cherdd y'i anrhegaf, Rhagor rhag Ifor a gaf. Nid hael wrth gael ei gyfryw, Nid dewr neb; band tëyrn yw? Nid af o'i lys, diful iôr, Nid ufudd neb ond Ifor.