Testun Golygedig: 14 - Basaleg

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Basaleg

Cerdda was, câr ddewiswyrdd,
Ceinfyd gwymp, is caenfedw gwyrdd;
O Forgannwg dwg ddydd da
4I Wynedd, heilfedd hwylfa,
Ac annwyl wyf, befrnwyf byd,
Ac annerch wlad Fôn gennyd.
Dywaid, i'm gwlad ni'm gadwyd,
8Duw a'i gŵyr, dieuog wyd,
Fy mod es talm, salm Selyf,
Yn caru dyn uwch Caerdyf.
Nid salw na cham fy namwain,
12Nid serch ar finrhasglferch fain,
Mawrserch Ifor a'm goryw,
Mwy no serch ar ordderch yw.
Serch Ifor a glodforais,
16Nid fal serch anwydful Sais,
Ac nid af, perffeithiaf pôr,
Os eirch ef, o serch Ifor,
Nac undydd i drefydd drwg,
20Nac unnos o Forgannwg.
Pand digrif yng ngŵydd nifer
Caru, claernod saethu, clêr?

   Goludog hebog hybarch,
24Gŵr ffyrf iawn ei gorff ar farch.
Gŵr yw o hil goreuwawr,
Gwiw blaid, helm euraid, hael mawr;
Cwympwr aer cyflymdaer coeth,
28Cwmpasddadl walch campusddoeth;
Carw difarw, Deifr ni oddef,
Cywir iawn y câi wŷr ef;
Ufudd a da ei ofeg,
32Ofer dyn wrth Ifor deg.

   Mawr anrhydedd a'm deddyw:
Mi a gaf, o byddaf byw,
Hely â chŵn, nid haelach iôr,
36Ac yfed gydag Ifor,
A saethu rhygeirw sythynt
A bwrw gweilch i wybr a gwynt,
A cherddau tafodau teg
40A solas ym Masaleg;
Gware ffristiawl a thawlbwrdd
Yn un gyflwr â'r gŵr gwrdd.

   O châi neb, cytundeb coeth,
44Rhagor rhag y llall rhygoeth,
Rhugl â cherdd y'i anrhegaf,
Rhagor rhag Ifor a gaf.
Nid hael wrth gael ei gyfryw,
48Nid dewr neb; band tëyrn yw?
Nid af o'i lys, diful iôr,
Nid ufudd neb ond Ifor.