Aralleiriad: Paraphrase: 14 - Basaleg

Basaleg

Cerdda, was, hoffa wyrddni godidog,
byd hardd gwych, o dan orchudd o fedw gwyrdd;
o Forgannwg dwg gyfarchion
4i Wynedd, ffordd y mae medd wedi ei ddarparu hyd-ddi,
ac annwyl ydwyf, llawenydd disglair y byd,
a chyfarcha wlad Môn.
Dywed — ni'm caniatawyd i'm gwlad fy hun,
8Duw a ŵyr, dieuog ydwyt —
fy mod ers talwm, salm Selyf,
yn caru rhywun uwchlaw Caerdydd.
Nid salw na beius yw fy ffawd,
12nid serch at ferch fain lyfn ei gwefus,
traserch at Ifor a'm gorchfygodd,
mwy na serch at gariad ydyw.
Clodforais serch Ifor,
16nid fel serch rhyw Sais ynfyd,
ac nid af, yr arglwydd perffeithiaf,
os gofynna ef, oblegid serch Ifor,
nac un dydd i drefi drwg,
20nac un nos o Forgannwg.
Onid dymunol yng ngŵydd llu
yw caru beirdd sy'n saethu at darged amlwg?

Hebog goludog mawr ei barch,
24gŵr cydnerth iawn ei gorff ar farch.
Gŵr o hil pendefig rhagorol ydyw,
un hael iawn, gwych ei gwmni a chanddo helm euraid;
dymchwelwr byddin cyflym a thaer a choeth,
28gwalch campus, doeth sy'n cwmpasu dadl;
carw anfarwol, nid yw'n goddef Saeson,
byddai dynion yn ei gael yn gywir iawn;
un gwylaidd a da ei ymadrodd,
32diwerth yw pob dyn o gymharu ag Ifor hardd.

Daeth anrhydedd mawr i'm rhan:
mi gaf, os byddaf byw,
hela â chŵn, nid oes arglwydd haelach,
36ac yfed gydag Ifor,
a saethu ceirw gwychion, unionsyth eu hynt
a bwrw gweilch i awyr a gwynt,
a cherddi tafodau teg
40a diddanwch ym Masaleg;
chwarae ffristiol a thawlbwrdd
yn gydradd â'r gŵr cadarn.

Os caiff un (cytundeb gwâr)
44y blaen ar y llall, un coeth iawn,
yn huawdl â cherdd y'i hanrhegaf,
rhagor gerbron Ifor a gaf.
Nid oes neb yn hael o gael ei debyg,
48nid oes neb yn ddewr; onid brenin ydyw?
Nid af o'i lys, yr arglwydd eofn,
nid oes neb yn deyrngar ond Ifor.