GDG 8
Anfon negesydd i Fôn a wna Dafydd yn y cywydd hwn, er mwyn esbonio nad yw am adael Morgannwg oherwydd ei serch at Ifor Hael a'r croeso a gaiff yn llys ei noddwr ym Masaleg. Yn rhif 16 ffarwelio ag Ifor a wna cyn cychwyn ar daith i Wynedd. Yn debyg i'r cerddi eraill i Ifor Hael ceir pwyslais ar gyfeillgarwch y ddau ac ar fwyniant gwâr y llys. Awgrymodd D.J. Bowen (1983–4, 182–3) y gall fod serch Dafydd at Ifor yn adlais o'r syniad a geir ym marddoniaeth Iwerddon fod y tywysog a'r ollav mewn ystyr symbolaidd yn ŵr a gwraig. Fodd bynnag, fe ymddengys mai chwarae ar boblogrwydd ei gywyddau serch y mae Dafydd — mae Ifor yn anwylach ganddo hyd yn oed na'r un o wrthrychau'r cerddi hynny — ac mae'n cyfarch ei negesydd dynol yn union fel y buasai'n cyfarch y llatai yn y canu serch.
Ceir dau destun cynnar o'r cywydd yn Pen 54 (c. 1480), sef Pen 54 (1), t. 75 (llaw Gwilym Tew), a Pen 54 (2), t. 315 (llaw Huw Cae Llwyd), a'r naill yn annibynnol ar y llall. O'r Vetustus y deillia H 26 a rhai amrywiadau yn Pen 49 a gofnodwyd ynghyd ag ambell ddarlleniad o ffynhonnell wahanol, a'r Vetustus yw ffynhonnell anuniongyrchol Wy 2. I'r un traddodiad y perthyn M 161, Pen 76, LlGC 560 a hefyd Bl e 1 (er ei fod yn cynnwys 5–6 nas ceid yn y Vetustus), ac er mai 'hen lyfr arall' ac nid y Vetustus yw ffynhonnell testun Pen 49, mân wahaniaethau sydd rhyngddo a fersiwn y Vetustus. Yr un yw trefn y llinellau yn CM 5, ond mae'n cynnwys nifer o ddarlleniadau sy'n cyfateb i destunau Pen 54, yn enwedig Pen 54 (2), a cheir darlleniad unigryw yn ll. 22 (gw. nodyn). Mae Br 2 hefyd yn annibynnol ar draddodiad y Vetustus er ei fod yn cyfateb yn aml, gyda chwpledi'n gyffredin rhyngddo a thestunau Pen 54. Mae ôl ailgyfansoddi ar rai o'r llinellau ac mae 13–14 yn eisiau.
Nid oes yr un testun sy'n cynnwys yr holl gwpledi. Ceir pob un ond 31–2 yn M 145, ond ymddengys mai copi yw'r testun hwnnw o M 161 lle yr ychwanegwyd 5–6 a 25–6 ar ymyl y ddalen. Ychwanegiad, o ffynhonnell wahanol i'r Vetustus, yw 5–6 yn Pen 49. Y testunau sy'n cynnwys y cwpled hwnnw yw Pen 54 (2), CM 5 a Bl e 1. Yn nau destun 54 ac yn Br 2 y diogelwyd 25–6 a 31–2, ond mae'r ddau gwpled clo yn eisiau yn Pen 54 (2). Dilynir yn y golygiad drefn y llinellau ym mwyafrif y llsgrau. Mae'r drefn yn wahanol yn Pen 54 (2) yn 25–30, gan amharu ar y cymeriad llythrennol g–, c–. Yn Pen 54 (1) mae 27–8 a 29–30 o chwith fel y maent hefyd yn Br 2, ac fe ellid derbyn y drefn honno. Mae darlleniadau testunau Pen 54 yn rhagori yn aml. Yng ngolygiad GDG y mae 21–2 yn rhagflaenu 41–2, ond nid oes sail i'r drefn honno yn y llsgrau lle y mae'r cwpled yn dilyn 19–20 yn ddi-ffael; nis ceir yn Pen 54 (1). Yn GDG hefyd y mae 23–4 a 25–6 o chwith, ac nid yw'r drefn honno chwaith i'w chael yn y llsgrau.
Cynghanedd: croes 8 ll. (16%), traws 16 ll. (32%), sain 19 ll. (38%) a dwy yn bengoll, llusg 7 ll. (14%).
2. is caenfedw Dilynodd GDG ddarlleniad traddodiad y Vetustus, uwch ceinfedw, ond is caenfedw sydd yn nau destun Pen 54 (cymh. Br 2 is kain vedw, CM 5 is ceinfedw). Mae'n ddarlleniad anos ac yn rhagori o ran ystyr gan na ddisgwylid ailadrodd yr ansoddair cain o fewn yr un llinell. Naturiol fuasai i'r ffurf anghyfarwydd caenfedw droi'n ceinfedw ar lafar. Ystyr caen yw 'gorchudd', cymh. e.e. 11.19 Ni thyf caen, llen maen, llanw môr — rhyferthwy ('Awdl i Ifor Hael'), 17.24 caen llifeiriaint ('Marwnad Ifor a Nest'), ac yn arbennig CBT I, 9.26 Balch caen coed, bryd pa6b parth yd garwy. Cymh. hefyd y darlleniad amrywiol gwyrddgaen gwŷdd, 147.15n.
3. dwg ddydd da Dyma ddarlleniad mwyafrif y llsgrau, gan gynnwys dau destun Pen 54; GDG dwg dydd da. Disgwylid i wrthrych y ffurf orchmynnol dreiglo'n feddal.
4. heilfedd Bôn y ferf heilio 'tywallt neu 'gweini, darparu' + medd. Cymh. heilwin yn 102.43 a 124.17. Ceir haelfedd yn rhai o'r llsgrau, e.e. Pen 49 (cymh. caenfedw > ceinfedw).
5. annwyl wyf Cymh. 16.28 Cywaethog ac enwog wyf ('Ymadael ag Ifor Hael').
befrnwyf Dyma'r ffurf yn CM 5 a Bl e 1, ac yn M 161 lle'r ychwanegwyd y cwpled ar ymyl y ddalen; fe'i ceir fel darlleniad amrywiol yn Pen 49. Pen 54 (2) berw nwyf; cymh. 83.48 berw serch a bair.
6. annerch ... gennyd Ceir yr un gystrawen yn 44.17–18 Annerch gennyd wiwbryd wedd, / Loyw ei dawn, leuad Wynedd, a 104.32 Ac annerch dy hun gennyd.
7. dywaid Ar y ffurf hon gw. 106.6n.
i'm gwlad GDG o'm gwlad, sef darlleniad mwyafrif y llsgrau a'r hyn a geid yn y Vetustus yn ôl pob golwg. Ond i'm gwlad sydd yn nau destun Pen 54 (sy'n rhagori yn llau 7–9) ac yn Pen 49 a CM 5, ac ymddengys mai Ceredigion a olygir gan ei bod yn annhebyg y buasai Dafydd yn cyfeirio at Forgannwg fel ei wlad ei hun. Fe all mai cyfeiriad sydd yma at alltudiaeth y bardd oblegid anghydfod â gŵr Morfudd. Ceir awgrym yng nghywydd 'Y Gwynt' bod Dafydd wedi ei wahardd o gwmwd Uwch Aeron yn sgil cwyn gyfreithiol gan y Bwa Bach, 47.17–18 Cyhuddgwyn wenwyn weini. / Caeth yw'r wlad a'i maeth i mi; gw. hefyd 116.45–6n. Cymh. yn ogystal 13.5–6 Myned o'm gwlad, dyfiad iôr, / Â'th glod, a dyfod, Ifor. Awgrymodd Saunders Lewis y dylid darllen i'm gwlad, ond gan dybio mai Môn yw'r wlad dan sylw, gw. 'Dafydd ap Gwilym' yn Meistri'r Canrifoedd, gol. R. Geraint Gruffydd (Caerdydd, 1973), 44.
ni'm Darlleniad unigryw Pen 54 (1); na'm yn ôl y llsgrau eraill. Cymerir mai Fy mod ... yw gwrthrych y ferf dywaid, gydag i'm gwlad ni'm gadwyd yn sangiad. Ceir fy mod yn ll. 9 yn nhestunau Pen 54 a Br 2, ond a'm bod yn y gweddill.
8. Duw a'i gŵyr Dilynir dau destun Pen 54 yma eto, a CM 5; diog wyf a rydd y rhan fwyaf o'r llsgrau eraill.
9. salm Selyf Caniad Solomon yn yr Hen Destament, enghraifft briodol o ganu serch. Cymh. 155.33–4 Serchog y cân dan y dail / Salm wiw is helm o wiail. Trafodir arwyddocâd y cyfeiriad hwn at salm Selyf gan Gilbert Ruddock, 'Genau Crefydd a Serch', YB x (1977), 231–2. Ar ddylanwad Cân y Caniadau ar gywyddau serch y 15g., gw. ei ysgrif 'Rhai Agweddau ar Gywyddau Serch y Bymthegfed Ganrif' yn Dafydd ap Gwilym a Chanu Serch yr Oesoedd Canol, gol. John Rowlands (Caerdydd, 1975), 108. Ar ei dylanwad ar ieithwedd serch cwrtais canu Lladin yr Oesoedd Canol, gw. Peter Dronke, Medieval Latin and the Rise of European Love–Lyric, i (Oxford, 1965), 264 ymlaen.
10. n wreiddgoll.
dyn Diau ei fod yn fwriadol amwys — 'merch', a 'dyn' sef Ifor Hael.
uwch Caerdyf is kayr dyf yn ôl Pen 54 (1) (cymh. LlGC 560). Ar ffurf wreiddiol Caerdydd, sy'n cynnwys hen gyflwr traws yr enw Taf, gw. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (Lerpwl, 1945), 39–40.
12. minrhasgl Min + rhasgl 'plaen bychan'. Yn GPC 2463 cynigir yn betrus yr ystyr 'llyfn ei wefus' ar sail IGE 418, cymh. GDG t. 441. Ceir yr unig enghraifft arall yng nghywydd marwnad Iolo Goch i Lywelyn Goch ap Meurig Hen, GIG XXII.47 Daliesin finrhasgl.
13. Ifor Pen 54 (1) ar Ior, darlleniad sy'n gohirio datgelu'r enw ymhellach.
goryw 3 unigol presennol gorfod 'gorchfygu' gydag ystyr berffaith, gw. GPC 1481 d.g. gorfyddaf: gorfod; GMW 147.
16. anwydful Darlleniad Pen 54 (2) (anvydvul) a gefnogir gan anwydvil Br 2 ac anwydfol CM 5. Dichon mai llygriad ohono yw anfadful traddodiad y Vetustus ac ynfydful Pen 54 (1) a Pen 49. Â'r llinell hon cymh. Nid fal menig Seisnig Sais mewn cywydd arall i Ifor Hael, 15.56 ('Diolch am Fenig').
17. perffeithiaf pôr Dilynodd GDG ddarlleniad Pen 54 (1), Bl e 1 a M 161 berffeithiaf bor. Gellir treiglo neu beidio yn dilyn gradd eithaf ansoddair, gw. TC 52–3.
18. Dyma sydd yn nau destun Pen 54 a CM 5. Llsgrau eraill: O'i serch ef os eirch Ifor.
20. n wreiddgoll.
21. Mae darlleniad Pen 54 (2) yn unigryw: Ponid digrif i nifer. Mae'r cwpled yn eisiau yn nhestun arall y llsgr. hon.
22. Er mai dyma ddarlleniad mwyafrif llethol y llsgrau, yn cynnwys Pen 54 (2), mae fersiwn GDG, Pennod, saethu claernod, clêr, yn seiliedig ar ddarlleniad unigryw CM 5. Yn nhestun GDG mae'r cwpled hwn yn rhagflaenu llau 41–2 fel mai'r brif frawddeg, fe ymddengys, yw Pand digrif ... Gwarae ffristiol a tholbwrdd, gyda'r llinell dan sylw yn sangiad ar ei hyd. Fel y sylwa Thomas Parry, ib. 442, rhydd Pennod ... gymeriad â'r llinell flaenorol, ond mae ystyr y llinell yr un mor foddhaol, o leiaf, yn y llsgrau eraill ac mae'r gynghanedd sain gadwynog yn berffaith dderbyniol. Mae ergyd y brif frawddeg, Pand digrif ... Caru ... clêr, yn gyson â thema'r cwpledi blaenorol, a gellir deall claernod saethu yn sangiad sy'n cyfeirio ymlaen at clêr, h.y. mae'r beirdd oll yn anelu at nod neu darged amlwg, sef eu noddwr Ifor Hael a ddisgrifir yn 13.18 fel Caeth y glêr. Er nad yr un yw arwyddocâd y trosiad, cymh. pedwerydd cywydd ymryson Dafydd, 30.3–4 Saethu y mae, wae wahawdd, / Pob nod, nid rhydd i'r Pab nawdd. Posibilrwydd arall yw cymryd claernod saethu yn wrthrych y ferf caru — onid dymunol, felly, yw caru beirdd sicr eu hannel.
23. Pen 54 (1) Golud hebog glod hybarch.
26. helm euraid Cymh. 12.22 Yn dwyn eurdo hëyrn ('Englynion i Ifor Hael').
27. cwympwr Pen 54 (1) kurwr.
28. cwmpasddadl Dadl yn yr ystyr gyfarwydd, efallai, yn hytrach na 'brwydr'. Mewn englyn yn mawrygu doethineb Ifor fe'i molir am ei allu I fwrw dadl swrth oddi wrthaw (12.11). Cwmpasu mewn ystyr debyg i 'meistroli', mae'n debyg, cymh. GIG XXIII.26 Cwmpasu gwawd, camp hoywserch ('Marwnad Ithel Ddu').
29. Sain bengoll.
Deifr Gwŷr tiriogaeth Deira yn yr Hen Ogledd yn wreiddiol, yna'r Saeson yn gyffredinol. Byddai Ifor yn rhoi Deifr ar esyth yn ôl 17.10; cymh. ib. 43 Einglgrwydr; 11.23 Einglgawdd.
30. Ceir darlleniad unigryw yn Pen 54 (1), kywir i wann y keir ef.
31. gofeg Gellid 'synnwyr' neu 'bwriad' yn ogystal ag 'ymadrodd', gw. GPC 1429. Canmolir hyglaer — ymadrodd Ifor yn 12.5.
32. Ar yr un patrwm y lluniwyd llinellau clo pob un ond un o'r englynion i Ifor Hael (rhif 12), e.e. ll. 40 Ofer deg wrth Ifor dal. Mae'r gystrawen honno o blaid y darlleniad hwn, a geir yn Pen 54 (2), yn hytrach nag amrywiad Pen 54 (1) a Br 2 Ofer dyn ond Ifor deg.
32+. Ceir cwpled ychwanegol yn Br 2: afiaith a wnaf i ifor / ofwy ais dyn ef yw stor, enghraifft, mae'n debyg, o'r ailgyfansoddi a welir yn y testun hwn.
35. hely â chŵn Mae hely â chŵn ymhlith campau'r bardd Ithel Ddu yn ôl Iolo Goch yn ei ffug–farwnad iddo, GIG XXIII.32.
36. Cymh. 16.36 Tydi Ifor, tad yfed.
37. Yn Pen 49 y ceir yr union ddarlleniad hwn, cymh. Pen 76 sevthv rrvgeirw ssythvnt. Saethu rhygeirw ni sythynt sydd ym mwyafrif y llsgrau; A saethu ceirw ni sythynt yn nau destun Pen 54 a CM 5. Ymddengys fod yr ansoddair cyfansawdd (syth + hynt) wedi ei gamddeall fel ffurf 3 lluosog y ferf sythu, ac ni rydd hynny ystyr foddhaol.
39. tafodau Dyma sydd yn nau destun Pen 54 a CM 5. Mae'r diffyg treiglad yng nghanol y gair yn bwrw amheuaeth ar y ffurf ciltannau a geir yn y rhan fwyaf o'r llsgrau.
41. ffristiawl a thawlbwrdd Dwy gêm fwrdd, y naill yn cael ei chwarae â dis a'r llall yn debyg i wyddbwyll, gw. F.R. Lewis, 'Gwerin Ffristial a Thawlbwrdd', THSC 1941, 185–205. Cymherir y sêr â Gwerin ffristiol a tholbwrdd yn 161.69, gw. n. ar y math o chwarae a olygir.
43. cytundeb Rhydd kyvvundeb Pen 54 (2) ystyr yr un mor briodol; cymh. cyfyowndeb CM 5.
46. Yn ôl Thomas Parry, GDG t. 442, ymffrostio y mae Dafydd, os gall guro Ifor mewn dim, y gall ei guro wrth chwarae ffristiol a thawlbwrdd. Gall fod yr awgrym hwnnw'n bresennol, ond cymerir mai chwarae clyfar sydd yma ar yr ymadrodd cael rhagor rhag 'cael y blaen ar' a geir yn llau 43–4. O'i anrhegu â cherdd caiff y bardd ragor o roddion gerbron Ifor, ystyr sy'n clymu'n briodol â'r llinell nesaf; cymh. 'Marwnad Ifor a Nest', 17.28 Â mwy no rhagor y'm anrhegaint. Mae'r cwpled felly'n gyflead cryno o gydberthynas bardd a noddwr, yn debyg i 13.11–12 Telais yt wawd tafawd hoyw, / Telaist ym fragod duloyw.
47. Sain bengoll.
48. band Ar sail bond Pen 54 (1), ffurf nas rhestrir yn GPC. Darlleniad y llsgrau eraill yw ond, ond ni cheir y ffurf honno ar y geiryn gofynnol cyn y 15g.
49. n wreiddgoll.
o'i lys Pen 54 (1) oy wlad.
50. ufudd 'Teyrngar' yw'r ystyr sy'n gweddu orau yn y cyswllt hwn, a 'gwylaidd' yn ll. 31 uchod. Eu serch a'u teyrngarwch i'w gilydd yw thema ganolog y cywydd, cymh. 12.13–14 O ufudd–dawd, ffawd a ffydd — a chiried, / A charu ei brydydd; 13.20–2 dau ufuddach / Wyd i'th fardd ... / ... no'r llaw i'r llall.