kowydd ifor hael
1 kardd was kar ddewiswyrdd
2 kanfod gwymp vwch keinfedw gwyrdd
3 o forgannwg dwg dydd da
4 i wynedd haelfedd hwylfa
5 ag anwyl wyf befr nwyf byd
6 ag anerch wlad fon genyd
7 dowaid om gwlad nam gadwyd
8 diog wyf a di evog wyd
9 am bod ers talm salm selyf
10 yn karv dyn vwch kaer dyf
11 nid salw na cham fy namwain
12 nid serch ar vn ferch fain
13 mowrserch ifor am goryw
14 mwy na serch ar ordderch yw
15 serch ifor a glodforais
16 nid fel serch anfadfvl sais
17 ag nid af berffeithiaf bor
18 oi serch ef os eirch ifor
19 nag vn dydd i drefydd drwg
20 nagvnos o forganwg
21 pand digrif yngwydd nifer
22 karu klaer nod sevthv kler
23 [76r] golvdog hebog hybarch
24 gwr ffyrf iawn i gorff ar farch
27 kwympiwr aer kyflymdaer koeth
28 kwmpas ddad walch kampus ddoeth
29 karw di farw deifr ni oddef
30 kowir iawn y kaf i wyr ef
33 mawr anrhydedd am deddyw
34 mi a gaf o byddaf byw
35 hel a chwn nid haelach ior
36 ag yfed gida ag ifor
37 sevthy rhygeirw ni sythynt
38 a bwrw gweilch i wybr a gwynt
39 a cherddav kil tanav teg
40 a solas y masaleg
41 chware ffrvstiol a tholbwrdd
42 yn vn gyflwr a gwr gwrdd
43 o kae neb kytvndeb koeth
44 rhagor rhag yllall rhygoeth
45 rhvgl a cherdd ich anrhegaf
46 rhagor nag ifor a gaf
47 nid hael wrth gael i gyfryw
48 nid tewr neb ond tevrn yw
49 [76v] nid af oi lys di fvl ior
50 nid vfvdd neb ond ifor
dafydd ap gwilym