{ko. i ganmol Ifor hael o forganwg}
1 Kerdda was cor ddewiswyrdd
2 ceinvyd gwymp vwch cainvedw gwyrdd
3 o Vorganwg dwg ddydd da
4 i wynedd heilvedd hwylfa
7 [268] dywaid o'm gwlad n'am gadwyd
8 diog wyf a dievog wyd
9 am bod er's talm salm Selyf
10 yn caru dyn vwch Caer dyf
11 nid salw na cham vy namwain
12 nid serch ar vin rhaglverch vain
13 mowrserch Ivor am goryw
14 mwy na serch ar ordderch yw
15 serch Ivor a glodvorais
16 nid val serch anvadvvl sais
17 ag nid af perfeithiaf por
18 oi serch ef os eirch Ivor
19 nag vndydd i drefydd drwg
20 nag vnnos o Vorgannwg
21 pandigrif yngwydd nifer
22 caru claer nod seuthu cler
23 goludog hebog hybarch
24 gwr fyrf iawn i gorph ar varch
27 cwympiwr aer cyflymdaer coeth
28 cwmpasddadl walch campusddoeth
29 carw divarw deifr ni oddef
30 cywir iawn y cae wyr ef
33 mawr anrhydedd am deddyw
34 mi a gaf o byddaf byw
35 hel a chwn nid haelach ior
36 ag yfed gyd ac Ifor
37 seuthu rhygeirw ni sythynt
38 a bwrw gweilch i wybr a gwynt
39 a cherddau ciltanau teg
40 a solas y Mysaleg
41 gwarae frustiol a tholbwrdd
42 yn vn gyflwr ar gwr gwrdd
43 o chae neb cytvndeb coeth
44 rhagor rhac y llall rhygoeth
45 rhugl a cherdd ir anrhegaf
46 rhagor rhac Ivor a gaf
47 nid hael wrth gael i gyfryw
48 nid dewr neb ond teyrn yw
49 nid af oi lys divvl ior
50 nid vfudd neb ond Ivor
Dauid ap Gwilim