{kowydd i ferch o waith dauid ap Gwilim}
1 kardda was kar ddewiswyrdd
2 keinfyd gwymp ywch keinfedw gwyrdd
3 o forganwc dwc dydd da
4 i wynedd haelfedd hwylfa
5 ac anwyl wyf befrnwyf byd
6 ar anerch wlad fon genyd
7 dowaid om gwlad nam gadwyd
8 dioc wyf a dieyoc wyd
9 am bod er ystalm salm selyf
10 yn kary dyn ywch kaer dyf
11 nid salw nacham fy namwain
12 nid serch ar fin rasgylferch fain
13 mowrserch ifor am goryw
14 mwy no serch ar ordderch yw
15 serch ifor a glodforais
16 nid fal serch anfadfyl sais
17 ac nid af berffeithiaf bor
18 oi serch ef os eirch ifor
19 nac yndydd i drefydd drwc
20 nac ynnos o forganwc
21 pan tigrif yngwydd nifer
22 kary klaernod seythy kler
23 golydoc heboc hybarch
24 gwr ffyryf iawn i goryff arfarch
25 gwr yw o hil goreyfawr
26 gwiw blaid helm eyraid hael mawr
27 kwympiwr aer kly kyflymddaer
koeth
28 kwmdpasddadyl walch kampysddoeth
29 [283] karw difarw deifyr ni oddef
30 kowir iawn i ka i wyr ef
33 mawr anrydedd am ddeddiw
34 mi a ga obydda bydda byw
35 hela a chwn nid haelach ior
36 ac yfed gida ac ior ifor
37 seythy rygeirw ni sythynt
38 a bwrw gweilch i wybyr a gwynt
39 a cherdday kil tannay tec
40 a solas ym maes salec
41 chware ffrystial a thowlbwrdd
42 yn vn gyflwr a gwr gwrdd
43 o chae neb kytyndeb koeth
44 ragor rac y llall rygoeth
45 rygyl acherdd ith anrega
46 ragor a rac ifor a ga
47 nid hael wrth gael i gyfryw
48 nid tewr neb ond teyrn yw
49 nid af oi lys difyl ior
50 nid yfydd neb ond ifor
dd ap gwilim a kant