Moliant Ifor
1 Cerdda wâs cor ddewiswydd
2 Cenfyd gwymp vwch ceinfedw gwydd
3 O forgannwg dwg dydd da
4 I wynedd haelfedd hwylfa
7 [83r] Dywaid i'm gwlad na'm gadwyd
8 Diog wyf a dieuog wyd
9 Am bod es talm salm selyf
10 Yn caru dyn vwch caer Dyf
11 Nid salw na cham fy namwain
12 Nid serch ar fin rasgl ferch fain
13 Mowrserch Ifor a'm goryw
14 Mwy nâ serch ar ordderch yw
15 serch Ifor a glodforais
16 Nid fal serch ynfydful sais
17 Ac nid âf perffeithiaf pôr
18 O'i serch ef os eirch Ifor
19 Nac vndydd i drefydd drwg
20 Nac vnnos o Forgannwg
21 Ond digrif yngwydd nifer
22 Caru caer nod saethu cler
23 Goludog hebog hybarch
24 Gwr ffyrf iawn ei gorph ai
farch
27 [83v] Cwympiwr aer cyflymdaer coeth
28 Cwmpasddadl walch campusddoeth
29 Carw difarw deifr ni oddef
30 Cywir iawn y kai ei wyr Ef
33 Mawr anrhydedd a'm deddyw
34 Mi a gâf o byddaf byw
35 Hel â chwn nid haelach Ior
36 Ac yfed gydag Ifor
37 A saethu rhy geirw sythynt
38 A bwrw gweilch i wybr a gwynt
39 A cherddau cîl tannau teg
40 A solas ym-MASALEG
41 Gwareu ffristiol a tholbwrdd
42 Yn vn gyflwr a'r gwr gwrdd
43 O chai neb cyttundeb coeth
44 Rhagor rhag arall rhygoeth
45 Rhugl a cherdd i'r anrhegaf
46 Rhagor rhag Ifor a gaf
47 [84r] Nid hael wrth gael ei gyfryw
48 Nid teyrn neb ond teyrn yw
49 Nid âf o'i Lys diful Ior
50 Nid vfydd neb ond Ifor
Da' ap Glm'
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetustum per alium
4 heilfedd
4 + Ac anwyl wyf befrnwyf byd
Ac annerch wlad fon genyd
16 anfadful
22 claer
24 ar
45 yr anrhegaf
48 dewr