â â â Diolch am Fenig
1â â â Ifor ydoedd afradaur,
2â â â O'i lys nid âi bys heb aur.
3â â â Doe yr oeddwn ar giniaw
4â â â I'w lys yn cael gwin o'i law.
5â â â Mi a dyngaf â'm tafawd,
6â â â Ffordd y try dydd, gwëydd gwawd:
7â â â Gorau gwraig hyd ar Geri
8â â â A gorau gwr yw d'wr di.
9â â â Tra fu'n trafaelu trwy fodd,
10â â â Trwy foliant y trafaelodd.
11â â â Y dydd y doethum o'i dai
12â â â Â'i fenig dwbl o fwnai,
13â â â Benthig ei fenig i'w fardd
15â â â A roes Ifor resawfardd.
15â â â Menig gwynion tewion teg
16â â â A mwnai ym mhob maneg:
17â â â Aur yn y naill, dyaill dau,
18â â â Arwydd oedd, o'r llaw orau,
19â â â Ac ariant, moliant milioedd,
20â â â O fewn y llall, f'ynnill oedd.
21â â â Merched a fydd yn erchi
22â â â Benthig fy menig i mi.
23â â â Ni roddaf, dygaf yn deg,
24â â â Rodd Ifor rwydd ei ofeg.
25â â â Ni chaiff merch, er eu herchi,
26â â â Mwy no gwr, fy menig i.
27â â â Ni wisgaf fenig nigus
28â â â O groen mollt i grino 'mys.
29â â â Gwisgaf, ni fynnaf ei fâr,
30â â â Hyddgen y gwr gwahoddgar,
31â â â Menig gwyl am fy nwylaw,
32â â â Ni bydd mynych y'u gwlych glaw.
33â â â Rhoddaf i hwn, gwn ei ged,
34â â â O nawdd rugl neuadd Reged,
35â â â Bendith Taliesin wingost
36â â â A bery byth heb air bost.
37â â â Ar ben y bwrdd erbyn bwyd
38â â â Yno'r êl yn yr aelwyd,
39â â â Lle trosaf ran o'm annerch,
40â â â Lle dewr mab, lle diwair merch,
41â â â Lle trig y bendefigaeth,
42â â â Yn wleddau, 'n foethau, yn faeth,
43â â â Yn wragedd teg eu hegin,
44â â â Yn weilch, yn filgwn, yn win,
45â â â Yn ysgarlad, rhad rhydeg,
46â â â Yn aur tawdd, yn eiriau teg.
47â â â Nid oes bren yn y Wennallt
48â â â Na bo'n wyrdd ei ben a'i wallt,
49â â â A'i gangau yn ogyngerth
50â â â A'i wn a'i bais yn un berth.
51â â â Ponid digrif i brifardd
52â â â Gweled, hoyw gynired hardd,
53â â â Arglwyddïaeth dugiaeth deg
54â â â A seiliwyd ym Masaleg?
55â â â Menig o'i dref a gefais,
56â â â Nid fal menig Seisnig Sais,
57â â â Menig, pur galennig, pôr,
58â â â Mwyn gyfoeth, menig Ifor.
59â â â Fy mendith wedi'i nithiaw
60â â â I dai Ifor Hael y daw.