Testun Golygedig: 15 - Diolch am Fenig

Diolch am Fenig

Ifor ydoedd afradaur,
O'i lys nid âi bys heb aur.
Doe yr oeddwn ar giniaw
4I'w lys yn cael gwin o'i law.
Mi a dyngaf â'm tafawd,
Ffordd y try dydd, gwëydd gwawd:
Gorau gwraig hyd ar Geri
8A gorau gŵr yw d'ŵr di.
Tra fu'n trafaelu trwy fodd,
Trwy foliant y trafaelodd.

   Y dydd y doethum o'i dai
12Â'i fenig dwbl o fwnai,
Benthig ei fenig i'w fardd
A roes Ifor resawfardd.
Menig gwynion tewion teg
16A mwnai ym mhob maneg:
Aur yn y naill, dyaill dau,
Arwydd oedd, o'r llaw orau,
Ac ariant, moliant milioedd,
20O fewn y llall, f'ynnill oedd.
Merched a fydd yn erchi
Benthig fy menig i mi.
Ni roddaf, dygaf yn deg,
24Rodd Ifor rwydd ei ofeg.
Ni chaiff merch, er eu herchi,
Mwy no gŵr, fy menig i.
Ni wisgaf fenig nigus
28O groen mollt i grino 'mys.
Gwisgaf, ni fynnaf ei fâr,
Hyddgen y gŵr gwahoddgar,
Menig gŵyl am fy nwylaw,
32Ni bydd mynych y'u gwlych glaw.

   Rhoddaf i hwn, gwn ei ged,
O nawdd rugl neuadd Reged,
Bendith Taliesin wingost
36A bery byth heb air bost.
Ar ben y bwrdd erbyn bwyd
Yno'r êl yn yr aelwyd,
Lle trosaf ran o'm annerch,
40Lle dewr mab, lle diwair merch,
Lle trig y bendefigaeth,
Yn wleddau, 'n foethau, yn faeth,
Yn wragedd teg eu hegin,
44Yn weilch, yn filgwn, yn win,
Yn ysgarlad, rhad rhydeg,
Yn aur tawdd, yn eiriau teg.
Nid oes bren yn y Wennallt
48Na bo'n wyrdd ei ben a'i wallt,
A'i gangau yn ogyngerth
A'i ŵn a'i bais yn un berth.
Ponid digrif i brifardd
52Gweled, hoyw gynired hardd,
Arglwyddïaeth dugiaeth deg
A seiliwyd ym Masaleg?

   Menig o'i dref a gefais,
56Nid fal menig Seisnig Sais,
Menig, pur galennig, pôr,
Mwyn gyfoeth, menig Ifor.
Fy mendith wedi'i nithiaw
60 I dai Ifor Hael y daw.