Diolch am Fenig
'Roedd Ifor yn afradlon â'i aur,
nid âi'r un bys o'i lys heb aur.
'Roeddwn yn ciniawa ddoe
4 yn ei lys, yn cael gwin o'i law.
Mi dyngaf â'm tafod,
fel y mae'r dydd yn troi, gwëwr mawl:
[ti yw'r] wraig orau hyd Geri
8 a'th wr yw'r gwr gorau sydd.
Tra bu'n teithio o'i wirfodd,
mewn moliant y teithiodd.
Y dydd y deuthum o'i dai
12 â'i fenig yn llawn ddwywaith o arian bath,
rhoi benthyg ei fenig i'w fardd
a wnaeth Ifor, groesawr beirdd.
Menig gwynion trwchus hardd
16 ac arian bath ym mhob maneg:
aur yn y naill (mae dau'n ei feddiannu,
arwydd oedd hynny), o'r llaw orau,
ac arian (testun moliant gan filoedd)
20 yn y llall, fy ngwobr ydoedd.
Bydd merched yn gofyn
am gael benthyg fy menig gennyf.
Ni roddaf (fe'u dygaf yn llwyr)
24 rodd Ifor hael ei fwriad.
Ni chaiff merch, er eu ceisio,
mwy na dyn, fy menig i.
Ni wisgaf fenig crintach
28 o groen maharen i grebachu 'mys.
Gwisgaf (ni fynnaf ei ddicter)
groen hydd y gwr parod ei wahoddiad,
menig tirion am fy nwylo,
32 anfynych y bydd glaw yn eu gwlychu.
Rhoddaf i hwn - 'rwy'n gyfarwydd â'i ffafr,
o ran nawdd diatal neuadd Rheged -
fendith Taliesin, yr heiliwr gwin,
36 a bery byth heb air o ymffrost.
Ar ben y bwrdd erbyn bwyd
boed i'm bendith fynd yno yn yr aelwyd,
lle cyflwynaf gyfran o'm cyfarchiad,
40 lle mae pob mab yn ddewr, pob merch yn ddiwair,
lle mae'r bendefigaeth yn trigo,
yn wleddoedd, yn foethau, yn faeth,
yn wragedd hardd eu hepil,
44 yn weilch, yn filgwn, yn win,
yn wisgoedd sgarlad, rhodd odidog,
yn aur tawdd, yn eiriau teg.
Nid oes coeden yn y Wennallt
48 nad yw ei phen a'i gwallt yn wyrdd,
a'i changau yn blethedig
a'i mantell a'i phais yn un berth.
Onid dymunol i brifardd
52 yw gweld (cyniwair bywiog a hardd)
llywodraeth y ddugiaeth wych
sydd wedi ei sylfaenu ym Masaleg?
Cefais fenig o'i gartref,
56 nid fel menig Seisnig rhyw Sais,
menig arglwydd (anrheg ddi-fai),
cyfoeth tirion, menig Ifor.
I lys Ifor Hael y daw fy mendith
60 a honno wedi ei nithio.