| Diolch am Fenig | |
| 'Roedd Ifor yn afradlon â'i aur, | |
| nid âi'r un bys o'i lys heb aur. | |
| 'Roeddwn yn ciniawa ddoe | |
| 4 | yn ei lys, yn cael gwin o'i law. |
| Mi dyngaf â'm tafod, | |
| fel y mae'r dydd yn troi, gwëwr mawl: | |
| [ti yw'r] wraig orau hyd Geri | |
| 8 | a'th ŵr yw'r gŵr gorau sydd. |
| Tra bu'n teithio o'i wirfodd, | |
| mewn moliant y teithiodd. | |
| Y dydd y deuthum o'i dai | |
| 12 | â'i fenig yn llawn ddwywaith o arian bath, |
| rhoi benthyg ei fenig i'w fardd | |
| a wnaeth Ifor, groesawr beirdd. | |
| Menig gwynion trwchus hardd | |
| 16 | ac arian bath ym mhob maneg: |
| aur yn y naill (mae dau'n ei feddiannu, | |
| arwydd oedd hynny), o'r llaw orau, | |
| ac arian (testun moliant gan filoedd) | |
| 20 | yn y llall, fy ngwobr ydoedd. |
| Bydd merched yn gofyn | |
| am gael benthyg fy menig gennyf. | |
| Ni roddaf (fe'u dygaf yn llwyr) | |
| 24 | rodd Ifor hael ei fwriad. |
| Ni chaiff merch, er eu ceisio, | |
| mwy na dyn, fy menig i. | |
| Ni wisgaf fenig crintach | |
| 28 | o groen maharen i grebachu 'mys. |
| Gwisgaf (ni fynnaf ei ddicter) | |
| groen hydd y gŵr parod ei wahoddiad, | |
| menig tirion am fy nwylo, | |
| 32 | anfynych y bydd glaw yn eu gwlychu. |
| Rhoddaf i hwn — 'rwy'n gyfarwydd â'i ffafr, | |
| o ran nawdd diatal neuadd Rheged — | |
| fendith Taliesin, yr heiliwr gwin, | |
| 36 | a bery byth heb air o ymffrost. |
| Ar ben y bwrdd erbyn bwyd | |
| boed i'm bendith fynd yno yn yr aelwyd, | |
| lle cyflwynaf gyfran o'm cyfarchiad, | |
| 40 | lle mae pob mab yn ddewr, pob merch yn ddiwair, |
| lle mae'r bendefigaeth yn trigo, | |
| yn wleddoedd, yn foethau, yn faeth, | |
| yn wragedd hardd eu hepil, | |
| 44 | yn weilch, yn filgwn, yn win, |
| yn wisgoedd sgarlad, rhodd odidog, | |
| yn aur tawdd, yn eiriau teg. | |
| Nid oes coeden yn y Wennallt | |
| 48 | nad yw ei phen a'i gwallt yn wyrdd, |
| a'i changau yn blethedig | |
| a'i mantell a'i phais yn un berth. | |
| Onid dymunol i brifardd | |
| 52 | yw gweld (cyniwair bywiog a hardd) |
| llywodraeth y ddugiaeth wych | |
| sydd wedi ei sylfaenu ym Masaleg? | |
| Cefais fenig o'i gartref, | |
| 56 | nid fel menig Seisnig rhyw Sais, |
| menig arglwydd (anrheg ddi–fai), | |
| cyfoeth tirion, menig Ifor. | |
| I lys Ifor Hael y daw fy mendith | |
| 60 | a honno wedi ei nithio. |