Welsh Paraphrase: 15 - Diolch am Fenig

Print friendly version

Diolch am Fenig

'Roedd Ifor yn afradlon â'i aur,
nid âi'r un bys o'i lys heb aur.
'Roeddwn yn ciniawa ddoe
4yn ei lys, yn cael gwin o'i law.
Mi dyngaf â'm tafod,
fel y mae'r dydd yn troi, gwëwr mawl:
[ti yw'r] wraig orau hyd Geri
8a'th ŵr yw'r gŵr gorau sydd.
Tra bu'n teithio o'i wirfodd,
mewn moliant y teithiodd.

Y dydd y deuthum o'i dai
12â'i fenig yn llawn ddwywaith o arian bath,
rhoi benthyg ei fenig i'w fardd
a wnaeth Ifor, groesawr beirdd.
Menig gwynion trwchus hardd
16ac arian bath ym mhob maneg:
aur yn y naill (mae dau'n ei feddiannu,
arwydd oedd hynny), o'r llaw orau,
ac arian (testun moliant gan filoedd)
20yn y llall, fy ngwobr ydoedd.
Bydd merched yn gofyn
am gael benthyg fy menig gennyf.
Ni roddaf (fe'u dygaf yn llwyr)
24rodd Ifor hael ei fwriad.
Ni chaiff merch, er eu ceisio,
mwy na dyn, fy menig i.
Ni wisgaf fenig crintach
28o groen maharen i grebachu 'mys.
Gwisgaf (ni fynnaf ei ddicter)
groen hydd y gŵr parod ei wahoddiad,
menig tirion am fy nwylo,
32anfynych y bydd glaw yn eu gwlychu.

Rhoddaf i hwn — 'rwy'n gyfarwydd â'i ffafr,
o ran nawdd diatal neuadd Rheged —
fendith Taliesin, yr heiliwr gwin,
36a bery byth heb air o ymffrost.
Ar ben y bwrdd erbyn bwyd
boed i'm bendith fynd yno yn yr aelwyd,
lle cyflwynaf gyfran o'm cyfarchiad,
40lle mae pob mab yn ddewr, pob merch yn ddiwair,
lle mae'r bendefigaeth yn trigo,
yn wleddoedd, yn foethau, yn faeth,
yn wragedd hardd eu hepil,
44yn weilch, yn filgwn, yn win,
yn wisgoedd sgarlad, rhodd odidog,
yn aur tawdd, yn eiriau teg.
Nid oes coeden yn y Wennallt
48nad yw ei phen a'i gwallt yn wyrdd,
a'i changau yn blethedig
a'i mantell a'i phais yn un berth.
Onid dymunol i brifardd
52yw gweld (cyniwair bywiog a hardd)
llywodraeth y ddugiaeth wych
sydd wedi ei sylfaenu ym Masaleg?

Cefais fenig o'i gartref,
56nid fel menig Seisnig rhyw Sais,
menig arglwydd (anrheg ddi–fai),
cyfoeth tirion, menig Ifor.
I lys Ifor Hael y daw fy mendith
60a honno wedi ei nithio.