Ll 120, 39v   
   Page: 1
    I Ifor hael
 
1    Ifor ydoedd afrodaur
2    oi llys nid ai bys heb aur
3    Doe'r oeddwn ar giniaw
4    iw lys yn cael gwîn o'i law
5    Mi a dyngaf am tafawd
6    ffordd y try dydd gwawdydd gwawd
7    Goreu gwraig hyd ar geri
8    A goreu gwr yw d'wr di
9    Tra fu'n trafaelio trwy fodd
10    trwy foliant y trafaeliodd
11    y dydd y deuthym iw dai
12    A'i fenig dwbl a'i fwnai
17    yn y naill y deaill dau
18    A llwydd oedd yn y llaw ddeau
19    Ac ariant moliant miloedd
20    o fewn y llall f'ynnull oedd
21    Merched a fydd yn erchi
22    benthic fy menig i mi
27    Ni wiscaf faneg megys
28    o groen mollt i grino mys
29    Gwiscaf ni fynaf fâr
30    hyddgen y grea howddgar
31    menig gwyl am fy nwy law
32    ni bydd mynych y gwlych glaw
35    Bendith Tal iessin wingosd
36    a beru byth heb air bosd
37    ar ben bwrdd erbyn bwyd
38    yn yr êl yn yr aelwyd
39    lle y trossa rhann o'm traserch
40    lle dewr mab lle diwair merch
41    lle y trîg pendefigiaeth
42    yn wleddau yn fwydau yn faeth
45    yn yscarlad rhad rhedeg
46    yn aur tawdd yn arian teg
43    yn wragedd teg yn egin
44    yn weilch yn filgwn yn wîn
47    Nid oes pren yn y wen-allt
48    na bo yn wyrdd oi benn a'i wallt
51    Gwaith digrif yw i brif-fardd
52    gweled hoew gynnired hardd
53    Arglwyddiaeth dugiaeth deg
54    a seiliwyd wrth Fyssaleg
55    Menig o'm tref a gefais
56    Nid fel mexnig seisnig sais
57    Menig pur gylenig pôr
58    mwyn gyfedd menig Ifor
59    fy mendith wedi ei nithiaw
60    I dŷ Ifor hael y daw
 
    dd ap Gwilym