llyma gowydd ir menig a roes Ivor hael i ddavydd ap Gwilym
1 Ivor wyd o vro rwyddaur
2 nidoes oth lys bys heb aur
3 doe ir oeddwn ar ginaw
4 yth lys yn kael gwin oth law
7 gorav gwraig hyd ar Geri
8 a gorav gwr yw dwr di
9 try vy'n try vaely trwy vodd
10 trwy voliant i tryvaelodd
11 [243r] y dydd i dauthym oi dai
12 au venig dwbl o vwnai
13 bentig i venig i vardd
14 a roes Ivor resewfardd
15 menig gwynion tewon teg
16 a mwnai ymhob maneg
17 aur yny llaill draill heb drau
18 arwydd oedd or llaw ddeau
19 ag ariant moliant milioedd
20 o vewn y llall vennill oedd
21 merched a vydd yn erchi
22 bentig vy ne menig i mi
25 ny chaiff merch er i herchi
26 mwy na gwr y menig i
23 ny roddaf dygaf yn deg
24 rodd Ivor rwydd i oveg
27 ny wisgaf vaneg vegys
28 o groen mollt i grino mys
29 gwisgaf ny vynnaf i var
30 hyddgen y gwr gwahoddgar
31 menig gwyl ar vy nwylaw
32 ny bydd mynych i gwlych glaw
33 roddaf i hwnn gwnn i ged
34 i naw rygl naviadd reged
35 bendith Taliesin vinfost
36 a bery byth heb air bost
37 ar benn y bwrdd erbyn bwyd
38 yno ir el ynyr aelwyd
39 ym lle tyrfa rann om hannerch
40 lle dewr mab lle diwair merch
41 lle trig vymhendevigaeth
42 yn wleddav n foethav yn vaeth
43 yn wragedd teg yn egin
44 yn wailch yn vilgwn yn win
45 yn ysgarled red redeg
46 yn aur tawdd yn airav teg
47 nidoes pren yny wenallt
48 na bo n wyrdd i benn au wallt
49 au gangav yn ogyngerth
50 au wn au bais yn vn berth
51 ponyd digrif i brivardd
52 weled yr hoew gainred hardd
53 arglwyddiaeth dvgiaeth deg
54 a sailwyd y masaleg
55 menig oi dref a gevais
56 nid val menig sarrig sais
57 menig pur galennig por
58 mwyn gyvoeth menig Ivor
59 vy mendith gwedy nithaw
60 i dai Ivor hael i daw
Davydd ap Gwilim ai kant
Darlleniadau Amrywiol
27 {venig nigys Dict.}
29 {ac ni vynnaf fâr Dict.}
49 {yn vn gyngerth Dict.}