Kywydd i Ifor hael i ddolch am bar o fenig
1 Ifor ydoedd oi frodaur
2 oi lys nid a bys heb aur
3 doe r oeddwn gwnn ar gynniaw
4 yw lys yn kael gwin oi law
5 mi a dyngaf am tafawd
6 ffordd y try dydd gweydd gwawd
7 Gorau gwraig hyd ar geri
8 a gorau gwr yw dwr di
9 tra fu n trafaelu trwy fodd
10 trwy foliant i trafaeliodd
11 y dydd i doethym oi dai
12 ai fenig dwbl o fwnai
17 yn y naill aur duaill dau
18 arwydd oedd ir llaw orau
19 ag ariant fo moliant miloedd
20 o fewn y llall fynnill oedd
21 pob merch y sydd yn erchi
22 benthig fy menig i mi
25 ni chaiff merch er i herchi
26 mwyn na gwr fy menig i
27 ni wsgaf faneg megys
28 o groen mollt i grino mys
29 Gwisgaf ac ni fynnaf far
30 hyddgen gan y gwr howddgar
31 menig gwyl am fy nwylaw
32 ni bydd mynych i gwlych glaw
35 bendith taliessin wingost
36 a beru byth heb air bost
37 ar benn y bwrdd erbyn bwyd
38 yno r el yn yr aelwyd
39 lle trossaf rann o hannerch
40 lle dewr mab lle diwair merch
41 yn lle brig penndefigaeth
42 yn wleddau /n/ fwythau n faeth
43 yn wragedd teg yn egin
44 yn weilch yn filgwn yn win
45 yn sgarlad rhad rhydeg
46 ynxx aur tawdd yn eiriau teg
47 [505] nid oes brenn yn y wennallt
48 na bo n wynnrdd i benn ai wallt
51 Gwaith drigrif yw i brifardd
52 gweled howe gynired hardd
53 Arglwyddiaeth dugiath deg
54 a seliwyd wrth fassaleg
55 menig oi dref a gefais
56 nid fal menig seixssignig sais
57 menig pur galenig por
58 mwyn gyfoeth menig ifor
59 fy m mendith wedi nithiaw
60 I dy ifor hael i daw
David ap Gwilym ai kant