â â â Ymadael ag Ifor Hael
1â â â Ufudd serchogion ofeg,
2â â â Ifor, tëyrneiddior teg,
3â â â Myned fal y dymunwyf,
4â â â Anodd iawn, Wynedd ydd wyf.
5â â â Nid myned, ddwyged ddigel,
6â â â O ddyn yr eilwaith a ddêl.
7â â â Deufis yn nwylan Dyfi
8â â â Ni allwn fod hebod di.
9â â â Y galon bedroglgron, bôr,
10â â â Ni chyfyd (yn iach, Ifor!)
11â â â Na llygad graddlad gruddwlych,
12â â â Na llaw na bawd lle ni bych.
13â â â Nid difudd rym ym yma,
14â â â Nid oedd gall na deall da
15â â â I'r neb a garai o'r naw
16â â â Diodydd gwin dy adaw.
17â â â Fy naf wyd a gwrddaf gwr,
18â â â Yn iach, diledach loywdwr.
19â â â Rhwyddynt, gyhafal Rhydderch,
20â â â Rhagod, synnwyr wybod serch,
21â â â Rhyfel llid, rhyw ofal llawn,
22â â â A heddwch, Ifor hoywddawn.
23â â â Maith y'th ragoriaith gerir,
24â â â Mawr iôr teg y môr a'r tir,
25â â â Naf coedfedw, nwyfau cydfod
26â â â Nef a phresen, cledren clod.
27â â â Cawn o ddawn a eiddunwyf,
28â â â Cywaethog ac enwog wyf,
29â â â O eiriau teg, o ariant,
30â â â Ac aur coeth, fal y gwyr cant,
31â â â O drwsiad, nid bwriad bai,
32â â â Ac arfau Ffrengig erfai,
33â â â Ufudd gost, o fedd a gwin,
34â â â O dlysau, ail Daliesin.
35â â â Tyrnau grym, tëyrn y Gred,
36â â â Tydi Ifor, tad yfed,
37â â â Enw tefyrn, ynad hoywfoes,
38â â â Wyneb y rhwydd-deb a'u rhoes.