Testun Golygedig: 16 - Ymadael ag Ifor Hael

Fersiwn hwylus i'w argraffu

Ymadael ag Ifor Hael

Ufudd serchogion ofeg,
Ifor, tëyrneiddior teg,
Myned fal y dymunwyf,
4 Anodd iawn, Wynedd ydd wyf.
Nid myned, ddwyged ddigel,
O ddyn yr eilwaith a ddêl.
Deufis yn nwylan Dyfi
8 Ni allwn fod hebod di.
Y galon bedroglgron, bôr,
Ni chyfyd (yn iach, Ifor!)
Na llygad graddlad gruddwlych,
12 Na llaw na bawd lle ni bych.
Nid difudd rym ym yma,
Nid oedd gall na deall da
I'r neb a garai o'r naw
16 Diodydd gwin dy adaw.

   Fy naf wyd a gwrddaf gŵr,
Yn iach, diledach loywdwr.
Rhwyddynt, gyhafal Rhydderch,
20 Rhagod, synnwyr wybod serch,
Rhyfel llid, rhyw ofal llawn,
A heddwch, Ifor hoywddawn.
Maith y'th ragoriaith gerir,
24 Mawr iôr teg y môr a'r tir,
Naf coedfedw, nwyfau cydfod
Nef a phresen, cledren clod.

   Cawn o ddawn a eiddunwyf,
28 Cywaethog ac enwog wyf,
O eiriau teg, o ariant,
Ac aur coeth, fal y gŵyr cant,
O drwsiad, nid bwriad bai,
32 Ac arfau Ffrengig erfai,
Ufudd gost, o fedd a gwin,
O dlysau, ail Daliesin.
Tyrnau grym, tëyrn y Gred,
36 Tydi Ifor, tad yfed,
Enw tefyrn, ynad hoywfoes,
Wyneb y rhwydd-deb a'u rhoes.