moliant Ifor
1 Vfydd serchogion ofeg
2 Ifor teyrneidd Ior têg
3 Myned fal y dymunwyf
4 Anodd iawn i wynedd wyf
5 Nid myned ddeuged ddigel
6 O ddyn yr eilwaith a ddêl
7 Deufis yn-nwylan Dyfi
8 Ni allwn bod hebod ti
9 Y galon bedryglgron bor
10 Ni chyfyd yn iach Ifor
11 Na llygad graddwlad gruddwlych
12 Na llaw na bawd lle ni bych
13 Nid mawr y grym ym ymma
14 Nid oedd gall na deall da
15 [84v] I'r neb a garai o'r naw
16 Diodydd gwin dy adaw
17 [fy naf wyt a gwrddaf gwr
18 yn iach diledach loywdwr]
19 Rhwyddynt gyhafal Rhydderch
20 Rhagod synwyr wybod serch
21 Rhyfel llid rhyw ofal llawn
22 A heddwch Ifor hoywddawn
23 Maith i'th ragoriaith gerir
24 Mawr ior teg y môr a'r tîr
25 Nâf coedfedw nefau cydfod
26 Nef a phresen cledren clôd
27 Caf o dda a ddamunwyf
28 Cywaethog ac enwog wyf
29 O eiriau têg o ariant
30 O aur coeth fal y gwyr cant
31 O ddillad nid bwriad bai
32 Ac arfau ffrengig erfai
33 Vfydd gôst o fedd a gwin
34 O dlysav ail Daliesin
35 Tyrnau grym teyrn y gred
36 Tydi Ifor tad yfed
37 [85r] Enw tefyrn ynad hoywfoes
38 Wyneb y rhwydddeb ai rhoes
Da' ap Glm'
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetust et per alium
9 bedrawglgron
17-18 wrth ymyl y ddalen, o'r alium
27 cawn o ddawn a eiddvnwyf (alium)
35 o