Edited Text: 17 - Marwnad Ifor a Nest

Marwnad Ifor a Nest

Henaint anghywraint a hiraeth—a phoen
      A phenyd fal blaen saeth,
   Marw Ifor, nid rhagoriaeth,
4    A marw Nest, mae Cymru'n waeth.

Mae'n waeth am dadmaeth, mae dôr—rhof ac ef
      Yn gyfyng ymlaen côr;
   Marw Nest, mae f'arwest yn fôr,
8    Morwyn nef, marw iawn Ifor.

Gorau gŵr oedd Ifor gorff syth,—ein rhi
      Yn rhoi Deifr ar esyth,
   Ar a fu, gu gwehelyth,
12    Ar y sydd ac a fydd fyth.

Nid af byth o'm nyth gan wŷd—i'i gerddor
      A gerddodd cylch y byd;
   Ni chân fy neufraich ennyd,
16    Ni chaf, ni feddaf hawdd fyd.

Hawdd fyd a gyfyd digofaint—calon,
    A hiraeth i'r fron hon, a henaint.
Herwydd wylaw glaw, glas ennaint—orchest,
20    Am Ifor a Nest, mwyfwy yw'r naint.
Hael Ddofydd, tremydd hwyl trymaint—a'm pair,
   Gweled Nest ni chair, crair, gair gwyraint.
Mordwy afarwy, neu ofeiriaint—poen,
24    Ceinlliw haf oroen, caen llifeiriaint,
Wrth weled ciried cariad saint—am fudd
   Ac anwylyd, prudd a gynheiliaint,
Nest wengoeth, winddoeth, wynddaint,—ac Ifor,
28    Â mwy no rhagor y'm anrhegaint.
 lluchwin o wydr y'm llochaint—ar hail,
   A medd o fuail mwy faddeuaint,
A rhuddaur a main y'm rhoddaint—bob awr,
32    Â hebogau mawr cynhebygaint.
Hir ddoniau i'r ddau, hwyr ydd aint—dan gêl
    I gydochel, neu y godechaint.
Ac undyn ydyn' ni'm oedaint—am fudd,
36    Ac un ddadannudd am fudd fyddaint.
Llyw llygrgaer yn aer, ni wnaint—yn eiddil
   Anturiau nawmil mewn twrneimaint.
Llys Fasaleg deg dygaint—hawddamawr,
40    A gwawr ei heurllawr, lle mawr meddwaint,
Lle bydd lleferydd, llifeiriaint—gwinllestr,
   A golau fenestr ac aelfeiniaint.
Llafnfriw, llwrw iawnwiw Llŷr ennaint—Einglgrwydr,
44    A llew ysigfrwydr lluosogfraint,
Llorf llu, lled garu, lledw geraint—ym mro;
   Llywio Naf yno nef ei henaint.