Marwnad Ifor a Nest
Henaint trwsgl a hiraeth a phoen
a chystudd fel blaen saeth,
marw yw Ifor, nid oes rhagoriaeth [bellach],
4 a marw yw Nest, mae Cymru'n waeth.
Mae'n waeth oherwydd [eisiau] tad maeth, mae drws rhyngof ac
ef
yn gyfyng ym mlaen cangell eglwys;
marw yw Nest, mae fy ngherddoriaeth fel môr,
8 morwyn nef, marw yw Ifor cyfiawn.
Ifor syth ei gorff oedd y gwr gorau (ein brenin
yn rhoi Saeson ar elorydd)
o'r rhai a fu, un annwyl [ei] linach,
12 o'r rhai y sydd, a'r rhai a fydd fyth.
Nid af fyth o'm noddfa oherwydd ymdeimlad o golled i'w
gerddor
a gerddodd o amgylch y byd;
nid yw fy mreichiau yn canu [y delyn] o gwbl,
16 ni chaf esmwythyd, nid yw'n eiddo i mi.
Esmwythyd sy'n achosi dicter calon
a hiraeth i'r fron hon a henaint.
Oherwydd wylo glaw, ymolchfa las ryfeddol,
20 am Ifor a Nest, mae'r nentydd yn cynyddu o hyd.
Mae Duw hael yn achosi pwl o afiechyd trwm i'm golwg,
ni ellir gweld Nest, y trysor, gair afiechyd anfad.
Ton o dristwch neu orlifiad o boen,
24 lliw cain disgleirdeb haf, ewyn ffrydiau,
wrth weld elusengarwch cariad sanctaidd er lles
ac un annwyl, cynhaliaeth ddoeth,
Nest wen a choeth, wybodus am win, â dannedd gwynion, ac
Ifor,
28 byddent yn rhoi gormodedd o anrhegion i mi.
Fe'm meithrinent â gwin disglair o wydr mewn gwledd,
a byddent bellach yn hepgor medd o gyrn yfed,
a rhoddent i mi aur rhudd a thlysau bob awr,
32 roeddent yn debyg i hebogiaid mawr.
Roedd gan y ddau ddoniau hir, anaml y byddent yn mynd i
lechu
o'r golwg gyda'i gilydd, neu yn ymguddio.
Ac maent fel un dyn na fyddai'n fy ngadael heb les,
36 ac un ffyniant fyddent er lles.
Arweinydd a ddinistriai gaer mewn rhyfel, nid yn wanllyd
y byddent yn gwneud naw mil o anturiaethau mewn
twrnameintiau.
Byddent yn dwyn cyfarchion yn llys hardd Basaleg,
40 ac arglwyddes ei lawr gwych, lle meddwdod mawr,
lle bydd siarad, llwythi o lestri gwin
a thywalltwr diod disglair a meinder aeliau.
Un sy'n dryllio llafn ac yn chwalu Saeson yn yr un dull
anrhydeddus â Llyr eneiniog,
44 a llew difaol mewn brwydr a niferus ei freintiau,
cynhaliwr llu o berthnasau llewyrchus ac annwyl gan bawb yn ei
fro;
boed i Arglwydd y nef arwain ei henaint yno.