Nodiadau: 17 - Marwnad Ifor a Nest

GDG 11

Mae'n weddol sicr mai ffug-farwnad yw hon. Un rheswm dros gredu hynny yw'r ffaith bod Lewys Glyn Cothi yn dweud yn bendant i Ddafydd farw cyn Ifor (GLGC 202. 43–4). Ac o ran tystiolaeth fewnol gellir nodi'r modd y troir at yr amser presennol wrth sôn am lys Basaleg yn ll. 41, ac wrth sôn am Ifor a Nest yn ll. 35, a hefyd y fendith ar henaint Ifor ym Masaleg, os iawn y dehonglir y llinell olaf.

Mae tystiolaeth yr achau'n cadarnhau mai Nest oedd enw gwraig Ifor Hael, sef Nest ferch Rhun o lwyth Bleddyn ap Cynfyn (gw. WG1 dan 'Cydifor Fawr' 16). Ond am ryw reswm mae tri bardd o'r 15fed ganrif yn cyfeirio at wraig Ifor wrth yr enw Efa, sef Lewys Glyn Cothi (GLGC 148.23, 183.40), Tudur Penllyn (GTP 10.42) a Llawdden (GLl 11.51–2). Ni nodir ail wraig i Ifor yn WG1.

Mae'r awdl hon yn cynnwys pedwar englyn unodl union wedi'u cysylltu trwy gyrch-gymeriad, a chyfres o bymtheg toddaid. Ceir cyrch-gymeriad rhwng yr englyn olaf a'r toddaid cyntaf, ac mae gair olaf y gerdd yn cyrchu'n ôl i'w dechrau.

Cadwyd 25 copi o'r awdl o ganol yr 16fed ganrif ymlaen. Mae eu testunau'n debyg iawn i'w gilydd, heb ddim amrywiaeth o ran nifer na threfn llinellau, ac fe ymddengys eu bod i gyd yn tarddu o'r un gynsail ysgrifenedig. Mae ansawdd y testun yn bur dda ar y cyfan, a dim ond un llinell sy'n ymddangos yn llwgr, sef 23. Mae'r trydydd englyn yn digwydd mewn rhai fersiynau o 'Englynion i Ifor Hael' (rhif 12), ond prawf y cyrch-gymeriad mai yma y mae'n perthyn.

Cynghanedd yr englynion: sain 7 ll. (44%); croes 4 ll. (25%); traws 3 ll. (19%); llusg 1 ll. (6%); un braidd gyffwrdd. Gw. ymhellach Crawford, 1985.

Cynghanedd y toddeidiau: sain 18 ll. (60%); croes 6 ll. (20%); traws 6 ll. (20%). Gw. ymhellach Crawford, 1990.

4. a marw   Dilynodd GDG Th, yr unig lsgr. sy'n hepgor y cysylltair ar ddechrau'r llinell. Ond ychwanegir sillaf yn Th trwy ddarllen kymru yn, ac nid oes cefnogaeth o gwbl yn y llsgrau i y mae GDG.

5.   Ceir rh ac f heb eu hateb ar ddechrau'r gair cyrch.

8. marw iawn Ifor   Cyfieithodd Gwyn Thomas '[and] Ifor [too] quite dead', ond mae'n debycach bod yr ansoddair yn disgrifio Ifor.

9.   Mae'r llinell hon yn ddigynghanedd fel y saif yn y llsgrau ac yn GDG, Gorau oedd Ifor â'i gorff syth. Ond o ddilyn llsgrau rhif 12 (gw. uchod) ceir yma gynghanedd braidd gyffwrdd rhwng gŵr a gorff.

13. i'i   Ceir i yn unig yn y rhan fwyaf o'r llsgrau, ond rhoddir y ffurf hon ar sail wy LlGC 727

15.   n wreiddgoll.

19.   Sain bengoll.

22. gwyraint   Cymerir mai gair cyfansawdd, gŵyr + haint, yw hwn.

23.   Darlleniad y llsgrau a GDG yw Rhaglyw afael yw, neu ofeiliaint. Yn ôl GDG 444 cyffelybir ergyd marwolaeth Nest i afael arwr ym mlaen brwydr. Ond nid yw hyn yn argyhoeddi, ac ni nodir enghr. arall o rhaglyw yn GPC 3018 cyn geiriaduron y 18fed ganrif. Mae aceniad afreolaidd y gynghanedd sain yn broblem fawr hefyd, a'r unig amrywiad yn y llsgrau yw a fael, sy'n cywirio'r aceniad ar draul y synnwyr. Penderfynwyd diwygio, felly, ac yn betrus iawn y cynigir darlleniad y testun. Mae afarwy, 'tristwch', yn air digon prin (gw. GPC2 96 a chymh. afar 12.31; enw priod yw Afarwy yn 12.3). O dderbyn hwnnw rhaid diwygio ofeiliaint i ofeiriaint (enw haniaethol o gofer, ond ni nodir y gair yn GPC), a rhoi gair yn lle rhaglyw i lunio odl. Dewiswyd mordwy am ei fod yn cael ei ddefnyddio'n ffigurol yn 34.2, fordwy rhad.

25.   Sain bengoll.

26. prudd a gynheiliaint   Yr arddodiad a = o sydd yma, gw. 39.30n.

28. anrhegaint  Mae'r terfyniad 3 llu. amherffaith -aint yn anghyffredin erbyn y 14g., gw. GMW 122 a GGMD III, t. 15.

30. faddeuaint   Ceir dwy f led-lafarog yn y llinell, ac mae'n debyg mai dyna pam y cafwyd ddifeiaint yn M 146 a LlGC 6209, darlleniad a fabwysiadwyd yn GDG er bod yr ystyr yn anfoddhaol. Y pwynt yw bod Ifor a Nest bellach yn gwneud heb fedd. Ond tybed a allai maddau olygu 'dosbarthu', yn yr un modd â hepgor (gw. GIG XXIV.3 a GLGC 102.24)?

32. cynhebygaint   Llsgrau ym hebygaint, ond ni nodir enghraifft arall o'r gair hwnnw yn GPC 1832 , ac yn betrus y cynigir yr ystyron 'anrhegu, anrhydeddu' (ni roddir ystyr o gwbl yn GDG 588). Nodir nifer o esiamplau cynnar o'r ferf cynhebygu, 'cyffelybu, ymdebygu' yn GPC 786, gan gynnwys un o waith Cynddelw, CBT III, 26.117.

38. anturiau   Mae'r llsgrau'n rhanedig rhwng y ffurf hon ac anturiai GDG, ond mae'r gystrawen yn well o ddarllen fel hyn.

42. aelfeiniaint   enw haniaethol o'r ansoddair cyfansawdd aelfain, 'meinder aeliau', gw. GPC2 84.

43. Llŷr ennaint   Mae'n debyg bod hyn yn gyfeiriad at y baddon a baratowyd ar gyfer y Brenin Llŷr pan aeth at ei ferch yn Ffrainc yn Brut y Brenhinedd (RBB 68).

45. lled garu   Derbynnir awgrym Thomas Parry, GDG 445, mai 'annwyl ar led, ymhell, yn helaeth; universally beloved' yw'r ystyr. Ond mae llid garu CM 5 a LlGC 6209 yn bosibl hefyd.

46.   Mae cystrawen y llinell yn aneglur, ond rhaid mai'r modd dibynnol yw llywio, a chymerir mai Naf . . . nef yw'r goddrych. Fe ymddengys fod rhith y ffug-farwnad wedi'i ollwng yn llwyr erbyn hyn, ac felly gellir cymryd mai Basaleg a feddylir wrth yno. Ceir huno yn lle yno mewn rhai llsgrau, oherwydd tybio bod rhaid ateb yr h yng ngair olaf y llinell, mae'n debyg. Ond gellid ystyried diwygio i fy henaint.