owdl farwnad i Ifor hen a nest i wraig
1 Henaint anghowraint hiraeth a ffoen
2 a ffenud fal blaeth saeth
3 marw ifor nid rhagoriaeth
4 a marw nest mawr yn aeth {mae
kymru'n waeth}
5 [197r] mae'n waeth am dadmaeth mae dor rof ag ef
6 yn gyfing ymlaen kor
7 marw nest mae farwest yn for
8 morwyn nef marw iawn ifor
9 gore oedd Ifor o gorff syth yn rhi
10 yn rhoi deifr ag essyth
11 ar i fv gu gwehehelyth
12 ar i sydd ar i fydd fyth
13 ni da byth om nyth gannwyd i gerddor
14 a gerddodd kylch i bud
15 ni chan fymhenn i ennud
16 ni chaf ni feiddaf hawdd fud
17 hawdd fud agyfud digofaint kalon
18 a hiraeth ir fron hon a henaint
19 herwudd wylaw gwlaw glas ennaint
orchest
20 am Ifor a nest mwy fwy yw fy naint
21 hael ddofudd tremmudd trymaint am pair
22 gweled nest ni chair krair gair gwiraint
23 rhaglyw a faelyw orau o feiliaint poen
24 keinllyw haf oroen koroen llifeiriaint
25 wrth weled kyried kariad saint am fudd
26 ag anwylud prudd a gyn heiliaint
27 nest wengoeth winddoeth wnddaint ag ifor
28 a mwy na rhagor am an rhegaint
29 [197v] a llychwin o wydr im llochaint ar hail
30 a medd o fuail mwy ddifeiraint
31 a rhydd aur a main ym rhoddaint bob awr
32 a heb y gau mawr ym heb i gaint
33 hirddoniau ir ddau hwyr i ddaint dangel
34 i gid i ochel neu godechant
35 ag vn dyn y dyn nim oedaint am fudd
36 ag vn ddadannudd am fudd fyddant
37 lliw llygr gae yn aer ni wnaint yn eiddil
38 antiriau nowmil mewn twrnemaint
39 llus fu saleg deg dygaint hawdd amawr
40 a gwawr o ieurllawr lle mawr meddwant
41 lle budd llyferudd llifeiriaint gwin llestr
42 a golau ffenestr ag oel ffyniaint
43 llawn friw llwrw iownwiw llyr ennaint
engydr
44 grwdr a llen ysigfrwydr llu o sowgfraint
45 llorf llu llid garu lledw geraint ymro
46 llowio naf huno nef i henaint
davudd ap gwilim ai kant