Owdwl Farwnad i Ifor Hael ag i Nest ei wraig
1 Henaint anghowraint a hiraeth a phoen
2 a phenyd blaen saeth
3 marw ifor nid rragoriaeth
4 a marw Nest mae kymru /n/ waeth
5 Mae /n/ waeth am dadmaeth mae dor rrof ag ef
6 yn gyfing ymlaen kor
7 marw Nest mae f'arwest yn Vor
8 morwyn nef marw iawn Ifor
9 Gorau oedd Ifor ai gorff syth yn rri
10 yn rroi deifr ar essyth
11 ar a fu gu wehelyth
12 ag y sydd ag a fydd fyth
13 Nid a byth om nyth anwyd ei gerddor
14 a gerddodd kylch y byd
15 ni chau fy neu vraich ennyd
16 ni chaf ni feddaf hawddfyd
17 Hawddfyd a gyfyd digofaint kalonn
18 a hiraeth ir fron honn o henaint
19 Herwydd wylaw glaw glas ennaint orchest
20 am Ifor a Nest mwy fwy yw'r 'naint
21 Hael ddofydd trennydd hwyl trimaint am pair
22 gweled Nest ni chair krair gair gwyraint
23 Rraglyw a fael yw ne afeiliaint poen
24 Keinlliw haf oroen kaen llifeiriaint
25 Wrth weled kuried kariad saint am fudd
26 ag anwylyd prudd a gynheiliaint
27 Nest wengoeth wiw ddoeth wynddaint ag Ifor
28 a mwy no rragor im anrregant
29 A lluchwin o wydr im llochaint arail
30 a medd o vuail mwy ddifeiaint
31 A ruddaur a main ym rroddaint bob awr
32 a hebogau mawr ym hebygaint
33 Hir ddoniau ir ddau hwyr iddaint dan gel
34 i gyd i ochel ne i godechaint
35 Ag un dyn ydyn nim oedant am fudd
36 ag un dadanudd am fudd fyddaint
37 Llyw llygr gaer yn aer ni wnaint yn eiddil
38 anturiai now mil mewn twrneimaint
39 Llys Vasaleg deg dygaint hawddamawr
40 a gwawr ei heurllawr lle mawr meddwaint
41 Lle bydd lleferydd llifeiriaint gwin llestr
42 a golau ffenestr agoel feiniaint
43 Llafnfriw llwrw iownwiw Llyr ennaint Eingl gwydr
44 a llew yssig frwydr lluossowgfraint
45 Llorf llu llid garu lledw geraint y mro
46 llywio naf huno nef i henaint.
Dafydd ap Gwilym ai kant.