â â â Niwbwrch
1â â â Hawddamawr, mireinwawr, maith,
2â â â Dref Niwbwrch, drefn iawn obaith,
3â â â A'i glwysteg deml a'i glastyr,
4â â â A'i gwin a'i gwerin a'i gwyr,
5â â â A'i chwrf a'i medd a'i chariad,
6â â â A'i dynion rhwydd a'u da'n rhad.
7â â â Cornel ddiddos yw Rhosyr,
8â â â Coetgae i warae i wyr,
9â â â Llwybrau henw lle brenhinawl,
10â â â Llu mawr o bob lle a'i mawl:
11â â â Lle diofer i glera,
12â â â Lle cywir dyn, lle ceir da;
13â â â Lle rhwydd beirdd, lle rhydd byrddau,
14â â â Lle ym yw ar y llw mau;
15â â â Pentwr y glod, rhod rhydfyw,
16â â â Pentref dan y nef dawn yw;
17â â â Pantri difydig digeirdd,
18â â â Pentan, buarth baban beirdd;
19â â â Paement i borthi pumoes,
20â â â Pell ym yw eu pwyll a'u moes;
21â â â Coety'r wlad rhag ymadaw,
22â â â Cyfnither nef yw'r dref draw;
23â â â Côr hylwydd cywir haelion,
24â â â Cyfannedd, mynwent medd Môn;
25â â â Cystedlydd nef o'r trefi,
26â â â Castell a meddgell i mi;
27â â â Perllan clod y gwirodydd,
28â â â Pair dadeni pob rhi rhydd;
29â â â Parch pob cyffredin dinas,
30â â â Penrhyn gloyw feddyglyn glas.