Niwbwrch
Cyfarchion tragywydd, dref Niwbwrch
hardd ei gwedd [a'i] hadeiladau [yn destun] gwir obaith,
a'i heglwys brydferth a theg a'i thyrau llwydion,
4 a'i gwin a'i gwyr cyffredin a'i bwrdeisiaid,
a'i chwrw a'i medd a'i serch,
a'i thrigolion hael [sy'n rhannu] eu cyfoeth yn ddiymdrech.
Cornel gysurus yw Rhosyr,
8 maes diogel [lle y gall] pawb ymddifyrru,
strydoedd adnabyddus [a] lle anrhydeddus [sydd yno],
fe'i moliennir gan dorfeydd o bob man:
lle buddiol iawn i glera,
12 lle [y mae pob] dyn yn onest, lle y derbynnir rhoddion;
lle didramgwydd i'r beirdd a'r byrddau yn agored [i bawb],
lle addas ar fy nghyfer ar fy ngair;
pennaf twr a folir, [lle y mae] olwyn [ffawd yn sicrhau]
ffyniant,
16 pentref [llawn] bendithion [yn anad yr un] ar wyneb y
ddaear;
pantri [sydd yn eiddo i] lu rhagorol a charedig,
aelwyd a buarth baban y prydyddion;
cyllid i [dalu am] gynnal y pumoes,
20 helaeth yn fy ngolwg yw eu doethineb a'u cwrteisi;
caer i'r sir rhag [gorfod] ffoi,
cyfnither i baradwys yw'r dref acw;
cangell lewyrchus [lle y ceir] gwyr [sy'n] ffyddlon a
hael,
24 lloches, man claddu holl fedd Môn;
o'r holl drefi un sy'n gymar i'r nefoedd [yw hon],
castell a thafarn fedd i mi;
perllan [lle y meithrinir] clodydd ei gwirodydd,
28 pair dadeni pob pennaeth rhydd;
parch gwerin pob dinas,
pentir [lle y ceir] medd disglair ac iraidd.