â â â Anrhegion Dafydd, Madog ac Iorwerth
1â â â Anfon a wnaeth rhieinferch
2â â â I Fadog, orseddog serch,
3â â â Dodrefn cariad hyd adref,
4â â â Do dail ir, da dyly ef.
5â â â I Dduw Madog a ddiylch
6â â â Gan ei chwaer hael cael y cylch.
7â â â Aml y gwisg ymylau gwydd,
8â â â Am ei ben y mae beunydd.
9â â â Cae o'r unwedd, cywreinwaith,
10â â â Ydiw'r mau, nid o aur maith.
11â â â Bagadfedw, bu egwydfodd,
12â â â A bun a'i rhoes heb enw rhodd.
13â â â Blaenion cainc, blinyn a'u câr,
14â â â Blethedig o blith adar.
15â â â Bawd a'i lluniodd, bedw llannerch,
16â â â Bagluryn a symlyn serch.
17â â â Gwell gan Ierwerth gywerthydd
18â â â Ei wawd nog anrheg o wydd.
19â â â Rhyw dudded bys, rhoed iddaw
20â â â Rhod lân rhag rhydu ei law.
21â â â Rhy wnaeth rhiain fain fynwaur,
22â â â Rhwydd yw hi, rhoddi ei haur.
23â â â Rhaid bychan oedd gan y gwr,
24â â â Rhwymo bys cyfan rhimwr.
25â â â Deudroedfedd, fab da drudfaith,
26â â â O dir iach, da ydiw'r iaith,
27â â â O'r unlle, cariadwe cur,
28â â â A edy Madog awdur
29â â â Ar Ierwerth gerddgerth gyrddgun,
30â â â Ac ar bawb o garu bun.
31â â â Ni myn Madog, mydr ddoethlef,
32â â â Obr am wawd ei dafawd ef,
33â â â Hael oedd, ac ni hawl iddi
34â â â Na'i main na'i haur, namyn hi.
35â â â A Mab y Cyriog ym Môn
36â â â A'i cais er cywydd cyson.
37â â â Rhagor mawr, gerddawr gordderch,
38â â â Y sydd rhwng golud a serch.
39â â â Cae gwial, er na thalo
40â â â O dda ei faich iddo fo,
41â â â Teilwng seren bedwenni,
42â â â Talm mawr, ef a'i tâl i mi.
43â â â Cusan morwyn ddianael,
44â â â Duw a'i gwyr, da yw ei gael;
45â â â Ni chaid ar ei wystleidaeth
46â â â Na medd na gwin; min a'i maeth.
47â â â Nid oedd nes i hwcstres hen
48â â â Ei brynu ef no brwynen.
49â â â Unrhyw yw hyn o anrheg,
50â â â O fedw glas teuluwas teg.
51â â â Aur gan unben a chwennych,
52â â â Irfedw glas a gâr gwas gwych.
53â â â Yn dwyn nwyf, nid un ofeg
54â â â Fy mrodyr, teuluwyr teg.
55â â â Maelier y gerdd a'i molawd
56â â â Yw Ierwerth a werth ei wawd.
57â â â A Madog, gwenidog gwydd,
58â â â Digrifaf dyn deigr Ofydd,
59â â â Cytgerdd eosgyw coetgae,
60â â â Câr i mi, caru y mae.