Anrhegion Dafydd, Madog ac Iorwerth
Anfon a wnaeth merch ifanc
at Fadog ([gwr] â gorsedd serch)
ddodrefn cariad i'w gartref,
4 to o ddail ir, mae'n ei haeddu'n llawn.
I Dduw y mae Madog yn diolch
am gael y cylch gan ei gariadferch hael.
Gwisg flaenau coed yn aml,
8 mae am ei ben beunydd.
Cae â'r un ffurf, gwaith cywrain,
yw fy eiddo i, nid o aur [a fydd yn para'n] faith.
Sypyn o fedw, bu'n debyg i lyffethair,
12 a merch a'i rhoes heb [fynnu rhoi] enw rhodd [arno].
Brigau cangen (gwr lluddedig a'u câr)
wedi eu plethu o blith adar.
Bawd a'i lluniodd, bedw llannerch,
16 blaguryn a sbardun serch.
Gwell gan Iorwerth [gael] rhywbeth cyfwerth
â'i farddoniaeth nag anrheg o goed.
Rhyw orchudd bys, rhoed iddo
20 gylch hardd rhag i'w law rydu.
Gwnaeth y ferch fain goler,
hael yw hi, [a] rhoi ei haur.
Angen bychan oedd gan y gwr,
24 rhwymo bys cyfan odlwr.
Dwy droedfedd (fab da craff a beiddgar)
o dir iach (da yw'r iaith)
o'r lle [hwn] (gwe cariad o gur)
28 y bydd Madog [yr] awdur ar y blaen
i Iorwerth sicr ei gân, arweinydd byddin,
ac i bawb o ran caru merch.
Nid yw Madog yn mynnu ([gwr] â llais medrus [o ran]
mydr)
32 gwobr am farddoniaeth ei dafod ef
(hael ydoedd) ac ni hawlia ganddi
na'i gemau na'i haur, namyn hi.
A Mab y Cyriog ym Môn
36 sy'n eu ceisio am gywydd persain.
Bwlch mawr (cerddor serch)
sydd rhwng cyfoeth a chariad.
Cae gwial, er nad yw'n werth ei bwysau
40 mewn cyfoeth iddo ef
(seren deilwng coed bedw)
mae'n werth cryn dipyn i mi.
Cusan morwyn hael iawn-
44 Duw a'i gwyr-da yw ei gael;
ni cheid drwy ei wystlo
na medd na gwin; mae gwefusau yn ei fagu.
Ni fyddai yn fwy tebygol i hen bedleres
48 ei brynu ef na [phrynu] brwynen.
Yr un peth yw hyn o anrheg
o fedw glas bardd teg.
Mae'n chwennych aur gan arglwydd,
52 bedw gwyrdd ac ir a gâr gwas gwych.
Yn meddiannu nwyd, nid o'r un farn
[yw] fy mrodyr, beirdd teg.
Masnachwr y gerdd a'i moliant
56 yw Iorwerth a wertha ei farddoniaeth.
A Madog, gwasanaethwr coed,
[y] dyn mwyaf hawddgar â dagrau Ofydd,
cydradd ei gerdd [ag eiddo] eos ifanc mewn llwyn,
60 câr i mi, caru y mae.