{ko y kaebedw}
1 Anvon a wnaeth rhieinverch
2 i Vadog orseddog serch
3 dodrefn cariad hyd adref
4 do dail ir da dyly ef
5 i Dduw Madog i ddiylch
6 gan vch-er hael cael y cylch
9 cae or vnwedd cywreinwaith
10 ydiw'r mav nid o aur maith
11 {bagadvedr} bygadvedw bu egwydvodd
12 a bvn ai rhoddes oi bodd
13 blaenion cainc blinin ai car
14 blethedig o blith adar
15 bawd ai llvniawdd bedw llanerch
16 blaguryn o symlyn serch
17 gwell gan Ierwerth gywerthydd
18 i wawd nog anrheg o wydd
19 rhyw dudded serch rhoed iddaw
20 rhod lan rhag rhydu ilaw
23 rhad bychan oedd gan y gwr
24 rhwymo bys cyvan rhimiwr
25 dau droedvedd vab da drudvaith
26 o dir iach lle mae da'r iaith
27 oi vnlle kyriadwe cur
28 a edy Madog owdur
29 ar Iorwerth gerddgerth gyrddgun
30 ag ar bawb o garu bvn
31 [304] ni myn Madog mydr ddoethlef
32 aur am wawd i davawd ef
33 hael oedd ac ni hawl iddi
34 nai main nai haur namyn hi
35 a mab y cyrriog ym Mon
36 ai cais am gywydd cysson
37 rhagor mawr gerddawr gordderch
38 y sydd rhwng golud a serch
39 cae gwial er nas talo
40 {d}da i vaich iddo y vo
41 teilwng seren bedweni
42 talm mawr ef ai tal i mi
43 cussan morwyn ddianael
44 Duw ai gwyr da yw igael
47 nid oedd nes i hwstres hen
48 i brynu ef no brwynen
45 ni cheid ar i wystleidiaeth
46 na medd na gwin min ai maeth
53 yn dwyn nwyf nid vn oveg
54 vrodur y tuyluwyr teg
55 maelier y gerdd ai molawd
56 yw Ierwerth a werth i wawd
57 a Madog cenedlog hydd
58 digrifa dyn o grefydd
59 cytgerdd eos gyw coetgae
60 car ym yw caru y mae
Dauid ap Gwilim