kywydd y kae. ar hed. ar vydrwy
1 Anfon a wnaeth Riainferch
2 i vadawg orseddawg serch
3 dodrefn kariad hyd adref
4 do dail jr da i dyly ef
5 i ddüw Madog a ddiylch
6 gan i chwaer hael gael y kylch
7 aml i gwisg ymylav gwydd
8 am i benn i mae baenydd
9 kae or vnwedd kywrainwaith
10 ydiwr mav nyd or aür maith
11 [490] bagadfedw bv egwydfodd
12 a bvn ai rhoes heb vn rhodd
13 blaenion kain ble nynn ai kar
14 blethedig o blith adar
15 bawd ai llvniawdd bedw llannerch
16 baglürvn a symlvn serch
17 gwell gan jorwerth gywerthrydd
18 i wawd nag anreg o wydd
19 Ryw dydded bys Roed yddaw
20 Rod lan Rag Rydy i law
21 Roi wnaeth Riain vain vynwavr
22 Rwydd yw hi rhoddi i haür
23 Red bychan oedd gan y gwr
24 Rwymo bys kyvan Raimwr
25 daüdledfedd vab da drüdfaith
26 o dir jach da ydiwr jaith
27 or vnlle kariadwe kür
28 a edy madog awdür
29 ar iorwerth gerdd gerth vyrgvn
30 ag ar bawb o garv bvn
31 ny mynn Madog mydr ddoethlef
32 obr am wawd i davawd ef
33 hael oedd ag ny hawl yddi
34 nav main nav haür namyn hi
35 y mab kyryrog y Mon
36 ai kais er kywydd kyson
37 Ragor mawr gerddawr gordderch
38 a sydd rhwng golvd a serch
39 [491] kae gwial er na thalo
40 o dda i verch yddaw vo
41 tailwng seren bedwenni
42 talm mawr ef ai tal i mi
43 küsan morwyn ddianael
44 düw ai gwyr da yw i gael
45 ny chaid ar i wstlaidaeth
46 na medd na gwin min na maeth
47 nydoedd nes i hwstres hen
48 i bryny ef na brwynen
49 vnryw yw hynn o anreg
50 o vedw glas telaüwas teg
51 kür gan vnbenn i chwennych
52 i vedw glas a gar gwas gwych
53 yn dwyn nwyf nyd vn oveg
54 vy mrodyr teilynwyr teg
55 maelier y gerdd ai molawd
56 yw jorwerth a werth i wawd
57 a Madawg gwenidawg gwydd
58 digryvaf dyn daigr Ovydd
59 kytgerdd eoes gyw kytgae
60 kar i mi karv i mae
Davydd ap gwilim ai kant