Y Cae bedw.
1 Anfon a wnaeth rhiein-ferch
2 i Fadog orseddog serch
5 I dduw Madog a ddiylch
6 gan ei chwaer hael cael y cylch.
9 Cae or vn-wedd cywrein-waith
10 ydiw 'r mau nid o aur maith
11 Bygad-fedw bu egwyd-fodd
12 a bun a'i rhoddes oi bodd
13 Blaenion cainc blinyn au câr
14 blethedig o blith adar.
15 Bawd au lluniodd bedw llannerch
16 blagurun o symlyn serch
17 Gwell gan Ierwerth gywerthydd
18 ei wawd noc anrheg o wydd
19 Rhyw dudded serch rhoedd iddaw
20 rhod lân rhag rhydu ei law.
23 Rhaid bychan oedd gan y gwr
24 rhwymo bys cyfan rhimi-wr
25 Dau droedfedd fab da drudfaith
26 o dir iach lle mae da 'r iaith.
27 Oi vnlle cariade cur
28 a edy Madog awdur
29 Ar Ierwerth gerdd gerth gyrdd-gun
30 ac ar bawb o garu bun
31 Ni myn Madog mydr ddoetlef
32 aur am wawd ei dafawd ef
33 Hael oedd ac ni hawl iddi
34 nai main nai haur na myn hi
35 A mab y cyrriog ym-Mon
36 ai cais am gywydd cysson
37 Rhagor mawr gerddawr gordderch
38 y sydd rhwng golud a serch
39 Cae gwiail er nas eilio
40 da ei fath doe iddo fo.
41 Teilwng seren bedwenni
42 talm mawr ef ai tâl i mi
43 [207v] Cusan morwyn ddianael
44 Duw a'i gwyr da yw ei gael.
47 Nid oedd nes i hwstres hên
48 ei brynu ef no brwynen,
45 Ni chaid ar ei wystleidiaeth
46 na medd na gwîn, mîn ai maeth
53 Yn dwyn nwyf nid vn ofeg
54 fyrodyr teulu-wyr teg
55 Mailier y gerdd ai molawd
56 yw Ierwerth a werth ei wawd,
57 A Madog cynhedlog hydd
58 digrifa dyn o grefydd
59 Cytgerdd eos gyw coet-gae
60 câr i'm yw caru y mae.
Terfyn