Kow: i gau bedw a ddanfonase i gariad i vn Madog Benfras anwyl
gydymeth y Bardd
1 Anfon a wnaeth rriainferch
2 i Fadog orseddog serch
3 dodrefn kariad hyd adref
4 do dail ir da dyle ef
5 i dduw dduw Madog a ddielch
6 gan i chwaer hael gael y gelch
7 {Aml i gwisc ymylau gwydd}
8 {Am i ben i mae baunydd}
9 kau or vnwedd kowrainwaith
10 ydiw /r/ mau nid o aur maith
11 {bagad-} bygodfedw bu egwydfodd
12 a byn ai rhoddes oi bodd {heb enw
rhodd}
13 {coed} blaeinion kaink blin ai kar
14 blethedig o blith adar
15 bawd ai lliniodd bedw llannerch
16 blagyrun a symlyn serch
17 gwell gan Ierwerth gywerthydd
18 i wawd nag anrheg oi wydd
19 {bys} rhyw dydded serch rhoed iddaw
20 rhod lan rhag rhydu i law
21 {Rywnaeth riain vain vynvawr}
22 {Rywydi hi roddi i haur}
23 [127] rhad bychan oedd gan y gwr
24 rhwmmo bys kyfan rhimiwr
25 dau droedfedd fab da drydfaith
26 {da ydiw} o dir iach lle mae da /r/
iaith
27 oi vnlle kariadwe kur
28 o edu Madog awdur
29 ar Ierwerth gerddgerth gyrddgun
30 ag ar bawb o garu bun
31 ni myn Madog mydr ddoethlef
32 {obr am wawd} Abram wawd oi dafawd
ef
33 hael oedd ag ni hawl iddi
34 nai mein nai haur nai myn hi
35 a mab y koriog y mon
36 ai kais am gowydd kyson
37 rhagor mawr gerddawr gordderch
38 ysydd rhwng golud a serch
39 kau gwial er nas talo
40 da i fath ydiw y fo {o da i faich
iddo fo}
41 teilwng seren bedwenni
42 talm mawr ef ai tal i mi
43 kysan morwyn ddianael
44 duw ai gwyr da yw i gael
47 nid oedd nes i hwsteres hen
48 i brynnu ef na brwynen
45 ni cheid ar i wstleidiaith
46 na medd na gwin min ai maeth
53 yn dwyn nwyf nid vn ofeg
54 fyrodur teyleywyr teg
49 {vnrhiw yw hyn o anrheg}
50 {o vedw glas teiluwas teg}
51 {aur gan vnben a chwennych}
52 {ir vedw glas a gar gwas gwych}
55 maelier y gerdd ai molawd
56 yw Ierwerth a werth i wawd
57 [128] a Madog kynhedlog hydd
58 digrifa dyn i grefydd
59 kytgerdd eos giw koetgau
60 kar ym yw karu i mau
Dafydd ap Gwilim ai kant